Sian Gwenllian

gwleidydd Cymreig ac AC

Gwleidydd, cyn-newyddiadurwr ac Aelod o'r Senedd ar ran plaid Cymru yw Siân Gwenllian (ganwyd Mehefin 1956); mae'n cynrychioli etholaeth Arfon ers Mai 2016.[1] Fe'i hail-etholwyd yn 2021 gyda chanran uwch o’r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall drwy Gymru benbaladr.

Siân Gwenllian
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Arfon
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganAlun Ffred Jones
Mwyafrif8,652
Manylion personol
GanwydMehefin 1956
Gwynedd
CenedlCymraes
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Plant4
Alma materPrifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdyddv
GwaithAelod o Senedd Cymru
Gwefanpartyofwalesarfon.org

Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad bu'n Gynghorydd Sir Gwynedd, dros etholaeth y Felinheli. Rhwng 2010 - 2012 roedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 - 2014 bu'n aelod y cabinet addysg, arweinydd plant a phobol ifanc ac yn ddirprwy arweinydd y cyngor. Yn 2014, fe'i gwnaed yn Hyrwyddwr Busnesau Bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector yn economi Gwynedd.

Magwraeth a bywyd personol golygu

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Wedi hynny bu’n newyddiadurwr efo’r BBC a HTV ym Mangor cyn dod yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, y pentref lle'i magwyd.

Magodd Siân bedwar o blant ar ei phen ei hun wedi i’w gŵr, Dafydd Vernon o Ben-y-groes, farw o ganser yn 1999. Mynychodd ei phlant Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.

Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n Llywydd ar Urdd y Myfyrwyr. Bu hefyd yn Aelod o Fwrdd Llywodraethwyr ysgolion ac yn Aelod o’r Cyngor Cymuned cyn dod yn Gynghorydd Sir.

Yn y Senedd golygu

Etholwyd Siân i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Arfon dros Blaid Cymru. Cafodd ei hail-hethol i Senedd Cymru yn 2021 gan ddyblu ei mwyayfrif a gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith Aelodau Senedd Cymru.

Rhwng 2018 a 2021, Siân oedd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Addysg, Plant a Phobl Ifanc a Diwylliant. Hi hefyd oedd Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd cabinet cysgodol Plaid Cymru tan 2023.

Ers 2021, mae Siân yn Aelod Arweiniol Dynodedig yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Plaid Cymru hold Arfon for Siân Gwenllian. Daily Post, 6 Mai 2016 (Saesneg)