Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Tywysog o Dŷ Hapsbwrg oedd Siarl VI (1 Hydref 168520 Hydref 1740) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig, yn Frenin Bohema, Hwngari a Chroatia, ac yn Archddug Awstria o 1711 i 1740.

Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd1 Hydref 1685 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Hydref 1740 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
PriodElisabeth Christine o Brunswick-Wolfenbüttel Edit this on Wikidata
PlantArchduchess Maria Amalia of Austria, Leopold Johann, Archddug Awstria Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Fienna, Archddugiaeth Awstria, yn ail fab i Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a'i wraig Eleonore Magdalene Therese. Yn sgil marwolaeth ei gefnder Siarl II, brenin Sbaen yn 1700, Siarl oedd un o'r rhai i hawlio'r goron yn Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1701–14). Cydnabuwyd ei hawl gan Loegr, yr Iseldiroedd, Portiwgal, a'r rhan fwyaf o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Er gwaethaf, llwyddodd Siarl i reoli Tywysogaeth Catalwnia yn unig. Bu farw yr Ymerawdwr Leopold yn 1705, a fe'i olynwyd gan frawd hŷn Siarl, Joseff I. Wedi marwolaeth Joseff yn 1711, etifeddodd Siarl holl diriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd a theitlau'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Brenin Hwngari, Brenin Croatia, Brenin Bohemia, ac Archddug Awstria. Bellach, nid oedd ei gynghreiriaid yn fodlon iddo sicrhau Sbaen hefyd, a chafodd Philip V o Dŷ Bourbon ei gydnabod yn frenin Sbaen gan Gytundeb Utrecht yn 1713. Er iddo orfod ffoi o Sbaen, parhaodd y brwydro rhwng lluoedd Siarl â'r Ffrancod nes Cytundeb Rastatt yn 1714, ac enillodd Siarl ambell diriogaeth yn yr Eidal.[1]

Trodd Siarl ei sylw i'r dwyrain, ac enillodd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd diriogaethau'r Banat, Serbia, Oltenia, a gogledd Bosnia oddi ar yr Ymerodraeth Otomanaidd yn rhyfel 1716–18. Sefydlwyd Cwmni Oostendse yn 1722 i gystadlu'n erbyn y Prydeinwyr a'r Iseldirwyr yn y Byd Newydd ac India'r Dwyrain, a bu hwnnw'n dwyn elw i'r Hapsbwrgiaid cyn i Deyrnas Prydain Fawr orfodi ei ddiwedd yn 1731 er mwyn ymgynghreirio â'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cafodd lluoedd Siarl eu gorchfygu yn Rhyfel Olyniaeth Pwyl (1733–35) a chollodd y Hapsbwrgiaid deyrnasoedd Napoli a Sisili i'r Bourboniaid. Bu'r Otomaniaid yn drech ar y Hapsbwrgiaid yn rhyfel 1737–39, ac ildiodd Siarl ei diriogaethau a enillwyd ugain mlynedd ynghynt yn ôl iddynt.[1]

Priododd Siarl ag Elisabeth Christine, Tywysoges Brunswick-Wolfenbüttel, yn 1708, a bu farw eu hunig fab, Leopold, yn saith mis oed. Yn niwedd ei deyrnasiad, ymdrechodd Siarl i sicrhau olyniaeth ei ferch hynaf, Maria Theresa, yn seiliedig ar y Datganiad Pragmatig a gyhoeddwyd ganddo yn 1713. Bu farw Siarl yn Fienna yn 1740 yn 55 oed. Er gwaethaf y Datganiad Pragmatig, gwrthwynebwyd hawl Maria Theresa i'r goron gan sawl ymhonnwr, a sbardunwyd Rhyfel Olyniaeth Awstria (1740–8).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Charles VI (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ebrill 2020.