Siarter brenhinol

Siarter a roddir gan Sofran ar gyngor y Cyfrin Gyngor yw Siarter Brenhinol, er mwyn cyfreithloni corfforaeth, megis dinas, cwmni, prifysgol ac yn y blaen. Mae Siarter Brenhinol yn fath o lythyr breinlen. Yn y canoloesoedd yn Ewrop, roedd ond yn gyfreithlon i fasnachu mewn dinasoedd, a'r unig fodd o sefydlu dinas oedd drwy gael Siarter Brenhinol. Cysidrir y flwyddyn i ddinas dderbyn ei Siarter Brenhinol i fod y flwyddyn pryd y sefydlwyd, nid yw'r ffaith y bu anheddiad yno gynt yn newid hyn. Gall hefyd roi neu greu statws arbennig ar gyfer corfforaeth. Mae rhoi Siarter Brenhinol yn Uchelfraint Brenhinol.

Ar un adeg, Siarter Brenhinol oedd yr unig fodd o ffurfio corfforaeth, ond erbyn hyn mae modd arall megis cofrestru cwmni cyfyngedig. Mae'r canlynol yn rhai o'r cyrff gorffennol a phresennol a sefydlwyd o dan siarter frenhinol:

  • Y cwmnïau lifrai Llundain
  • Cwmni Dwyrain India (1600)
  • nifer o wladfeydd Prydeinig yng Ngogledd America (1629–1663)
  • Cwmni Bae Hudson (1670)
  • Banc Lloegr (1694)
  • Cwmni P&O (1837)
  • Cwmni De Affrica Prydeinig (1889)
  • Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC) (1927)