Sicl newydd Israel

Arian cyfred Israel yw sicl newydd Israel neu sicl Israel (Hebraeg: שֶׁקֶל חָדָשׁ‎ Sheqel H̱adash; Arabeg: شيكل جديد‎ šēkal jadīd; arwydd: ₪; cod: ILS), ac mae'n cael ei ddefnyddio hefyd fel arian cyfreithlon yn nhiriogaethau Palesteinaidd Y Lan Orllewinol a Llain Gaza. Mae'r sicl newydd yn cael ei rhannu'n 100 agora. Mae'r sicl newydd wedi'i defnyddio ers 1 Ionawr 1986, pan cymerodd le'r hen sicl ar gyfradd o 1000ː1.

Money IL WV.JPG
Y sicl newydd, arian cyfred Israel

Mae'r arwydd arian cyfred ar gyfer y sicl newydd yn gyfuniad o lythrennau cyntaf Hebraeg o'r geiriau shekel (ש) a ẖadash (ח) (newydd). Ochr yn ochr a'r arwydd sicl, mae'r talfyriadau NIS, ש"חש"חش.جش.ج hefyd yn cael eu defnyddio i gyfleu prisiau.