Sidi Bouzid, Tunisia

Dinas yn Nhiwnisia yw Sidi Bouzid (Arabeg: سيدي بوزيد) neu Sidi Bou Zid, sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yng nghanolbarth y wlad. Gyda phoblogaeth o 39,915 yn 2004, mae'n ganolfan weinyddol a ranbarthol. Masnach amaethyddol yw'r prif ddiwydiant.

Sidi Bouzid
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth429,912 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSidi Bouzid Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.0381°N 9.4858°E Edit this on Wikidata
Cod post9100 Edit this on Wikidata
Map

Fe'i lleolir 135 km à i'r gorllewin o Sfax ac arfordir y Môr Canoldir a 265 km i'r de o'r brifddinas, Tiwnis.

Hanes diweddar golygu

Ar 18 Rhagfyr 2010, cafwyd protestiadau mawr yn Sidi Bouzid ar ôl i ddyn ifanc gyda gradd prifysgol a geisiai ennill ei fywiolaeth drwy werthu llysiau o gert llaw ladd ei hun ar ôl i'r heddlu ei atal a chymryd ei gert i ffwrdd am nad oedd ganddo drwydded swyddogol.[1] Mae'r rhanbarth, fel llawer o leoedd yn Nhiwnisia, yn dioddef lefel diweithdra uchel, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn cynnwys nifer gyda chymwysterau coleg a phrifysgol. Ymledodd yr anghydfod i dref gyfagos lle cafwyd gwrthdaro ar raddfa eang rhwng protestwyr a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch. Erbyn diwedd Rhagfyr 2010 roedd y gwrthdystio wedi ymledu i rannau eraill o Diwnisia, yn cynnwys Tiwnis, Sfax, El Kef a sawl dinas a thref arall, ac roedd grwpiau ac unigolion sy'n gwrthwynebu llywodraeth Zine Ben Ali yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel "gwrthryfel poblogaidd" yn erbyn y llywodraeth yn enw democratiaeth, gwaith a hawliau dynol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tunisie : heurts entre manifestants et forces de l'ordre à Sidi Bouzid" Archifwyd 2010-12-22 yn y Peiriant Wayback., Le Nouvel Observateur, 19 Rhagfyr 2010.
  2. Newyddion Al-Jazeera, 20 Rhagfyr 2010.

Dolen allanol golygu