Sidney Robinson

gwleidydd (1863-1956)

Roedd Sidney Robinson (6 Ionawr 1863 - 6 Rhagfyr 1956) yn wleidydd Rhyddfrydol ac yn fasnachwr coed.

Sidney Robinson
Ganwyd6 Ionawr 1863 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Mill Hill School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Sidney Robinson yn bedwerydd mab i John Robinson o Backwell House, Gwlad yr Haf. Cafodd ei addysg yn ysgol Mill Hill. Priododd yn 1887 a Flora Catherine Grant o Gaerdydd. Bu hi farw ym 1935.

Gyrfa busnes golygu

Ym 1880, symudodd Robinson o'i gartref teuluol yng Ngwlad yr Haf i Gaerdydd i weithio yn y fasnach goed gyda chwmni John Grant & Co. Yn ddiweddarach prynodd y cwmni ac yna daeth yn bartner gyda T W David. Ail-enwyd y busnes yn Robinson, David & Co. Etholwyd ef yn Llywydd Cymdeithas Mewnforwyr Coed Môr Hafren.[1]

Gyrfa wleidyddol golygu

Ym 1895 cafodd ei ethol yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Tref Caerdydd i gynrychioli Ward Sblot. Safodd i lawr o'r Cyngor ym 1901, ond parhaodd i fod yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol Caerdydd trwy wasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y dref [2]. Cafodd ei ethol i Dy’r Cyffredin ar ei ymgais gyntaf i gynrychioli etholaeth Sir Frycheiniog yn Etholiad cyffredinol 1906 a chafodd ei ail-ethol yn yr Etholiad cyffredinol canlynol.

Bu newid yn ffiniau etholaethau canolbarth Cymru ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 lle unwyd etholaethau Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed i greu etholaeth newydd Brycheiniog a Maesyfed. Bu ymgiprys rhwng Robertson ac AS Rhyddfrydol Maesyfed, Syr Francis Edwards ar gyfer ymgeisyddiaeth y blaid yn yr etholaeth newydd, gyda Robertson yn ennill yr enwebiad yn ddiwrthwynebiad ar ôl i Edwards tynnu allan o'r ras.

Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod cyntaf y sedd newydd.[3] Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad Cyffredinol 1922

Y tu allan i'r Senedd bu Robinson yn cyfrannu at fywyd cyhoeddus trwy wasanaethu ar y fainc fel Ynad Heddwch. Ym 1907 fe'i penodwyd i fainc Morgannwg ac o 1911, bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Wiltshire a Gwlad yr Haf .

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Morley
Aelod Seneddol dros Sir Frycheiniog
19061918
Olynydd:
diddymu yr etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed
19181922
Olynydd:
William Albert Jenkins