Sielo

offeryn cerdd

Mae'r sielo (neu'r soddgrwth) yn offeryn llinynnol ac yn aelod o deulu'r ffidil. Mae'r enw yn deillio o'r gair Eidaleg violoncello, ac mae'r person sy'n canu'r sielo yn cael ei alw'n sielydd. Defnyddir y sielo fel offeryn unawd, yng ngherddoriaeth siambr ac yn yr adran llinynnau o gerddorfa.

Sielo

Disgrifiad golygu

Mae'r sielo yn cael ei gyweirio mewn pumedau, gan ddechrau gyda C (dau wythfed dan C ganol) fel y llinyn isaf, a’r llinynnau G, D ac A yn dilyn yn uwch. Mae e'n cael ei gyweirio'r un fath â'r fiola, ond un wythfed yn is. Mae'r sielo yn gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol Ewropeaidd, gan fwyaf, ac fe’i disgrifiwyd fel yr offeryn agosaf i'r llais dynol.

Adeiladwaith golygu

Mae'r sielo fel arfer yn cael ei wneud o bren, er bod deunyddiau eraill megis ffibr carbon neu alwminiwm yn cael eu defnyddio hefyd. Yn draddodiadol defnyddid sbriws i wneud y plât uchaf, gyda choed masarn i’r cefn, ochrau a gwddf. Mae'r rhannau wedi’u cerfio â llaw yn draddodiadol ond mae sieloau rhatach yn cael eu cynhyrchu â pheiriannau. Mae'r ochrau, neu asennau, yn cael eu gwneud drwy gynhesu’r coed ac addasu’r ffurfiau o gwmpas mowldiau.

Gwddf, blwch ebill a sgrôl golygu

Yn ymestyn o’r prif gorff mae’r gwddf cerfiedig, sy’n arwain at flwch ebill a'r sgrôl. Maen nhw fel arfer yn cael eu cerfio o un darn o bren. Mae'r blwch ebill ar gyfer cyweirio’r tannau ac mae’r pegiau neu ebillion yn cael eu gwneud o eboni.

Llinynnau /Tannau golygu

Mae tannau sielo yn cael eu gwneud o goludd neu fetel. C G D A yw'r nodau agored safonol.

Pont a thyllau-f golygu

 
Bont a thyllau-f y sielo

Mae'r bont yn crogi'r llinynnau dros y sielo ac mae hi'n trosglwyddo'r dirgryniadau o'r plât i'r postyn sŵn. Mae'r tyllau-f yn caniatáu'r aer i symud i mewn ac allan o'r offeryn fel rhan o'r broses swnio.

Bwa golygu

Yn draddodiadol, mae bwâu yn cael eu gwneud o bren Brasil. Maen nhw tua 73 cm mewn hyd. Mae'r gwallt yn cael ei wneud o rawn o gynffon ceffyl yn draddodiadol, ond yn y dyddiau hyn, defnyddir gwallt synthetig hefyd. Mae rosin neu ystor yn cael ei ddefnyddio i wneud y gwallt yn arw ar gyfer dirgrynu’r tannau.

Defnydd cyfredol golygu

Ceddorfaol golygu

Mae sieloau yn rhan o gerddorfa symffoni safonol. Fel arfer, mae’r gerddorfa yn cynnwys wyth i ddeuddeg o sielyddion. Rhan gritigol o gerddoriaeth gerddorfaol yw’r sielo. Mae pob gwaith symffonig fel arfer yn golygu defnydd o’r adran sielo ac weithiau'r angen o unawdau sielo. Sut bynnag, yr adran sielo gan amlaf sy’n darparu’r bas i’r harmonïau.

Unawdau golygu

Mae nifer o concerti sielo - darnau cerddoriaeth lle mae’r sielo yn cael ei gyfeilio gan gerddorfa - er enghraifft 25 gan Vivaldi, 12 gan Boccherini, 2 gan Haydn, 2 gan Saint-Saëns, 2 gan Dvořák ac 1 gan Elgar. Yn yr 20g, roedd cerddoriaeth sielo’n ehangu mewn pwysigrwydd, oherwydd dylanwad Mstislav Rostropovich, sy wedi comisiynu a symbylu llawer o waith newydd.

Mae llawer o waith unawd sielo hefyd, yn bwysicaf oll y 'Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant' gan J. S. Bach.

Pedwarawdau ac ensembles eraill golygu

Mae’r sielo yn aelod o'r pedwarawd llinynnol traddodiadol yn ogystal â phumawdau llinynnol, chwechawdau neu driawdau ac ensembles cymysg eraill. Mae hefyd mewn darnau a ysgrifennwyd ar gyfer dau, tri, pedwar neu fwy o sieloau. Y math hwn o ensemble a elwir hefyd yn "gôr soddgrwth" ac mae ei sain yn gyfarwydd yn y cyflwyniad i'r 'Agorawd Gwilym Tel' gan Rossini.

Cyfryngau golygu