Siglen lwyd

rhywogaeth o adar
Siglen Lwyd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Motacillidae
Genws: Motacilla
Rhywogaeth: M. cinerea
Enw deuenwol
Motacilla cinerea
Tunstall, 1771

Mae'r Siglen Lwyd (Motacilla cinerea) yn aelod o deulu'r Motacillidae, sy'n cynnwys y corhedyddion yn gystal a'r siglennod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd a chanol Asia, ynghyd â rhannau o ogledd Affrica.

Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Lwyd yn aderyn mudol, er enghraifft mae rhai adar o ogledd Asia yn gaeafu cyn belled ag India. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell, ond gall adar sy'n nythu ar yr ucheldiroedd dreulio'r gaeaf ar dir is. Mae'n nythu gerllaw afonydd a nentydd lle mae'r dŵr yn rhedeg yn weddol gyflym. Fel rheol mae'n dewis safle yn weddol agos i'r dŵr ar gyfer y nyth, ar unrhyw le addas ar graig neu bont. Mae'n dodwy o 3 i 6 wy.

Gellir adnabod y Siglen Lwyd yn weddol hawdd. Mae'n aderyn o 17 hyd 20 cm o hyd, ond mae'r gynffon hir yn rhan sylweddol o hyn. Mae'n siglo'r gynffon yn barhaus, sy'n gyfrifol am yr enw. Y Siglen Lwyd sydd a't gynffon hiraf o siglennod Ewrop. Mae'r aderyn yn llwyd ar y cefn ac yn felyn ar y bol, gyda gwddf du yn y tymor nythu.

Mae'r Siglen Lwyd yn aderyn cyffredin ar lawer o afonydd a nentydd Cymru, yn llawer mwy cyffredin na'r Siglen Felen sy'n edrych yn weddol debyg.