Hanesydd o Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Han oedd Sima Qian (司马迁) (ca. 145 CC - ca. 86 CC). Ef oedd awdur y Shiji, y llyfr cynharaf ar hanes Tsieina sydd wedi ei gadw yn ei gyfanrwydd.

Sima Qian
Ganwyd145 CC Edit this on Wikidata
Hejin Edit this on Wikidata
Bu farwGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWestern Han Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, bardd, ysgrifennwr, astroleg, athronydd, mathemategydd, seryddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRecords of the Grand Historian Edit this on Wikidata
TadSima Tan Edit this on Wikidata
PlantSima Qian's daughter (Yang Bis wife) Edit this on Wikidata

Ceir dwy ffynhonnell am ei fywyd. Diweddodd Sima Qian ei Shiji gyda xu (diweddglo), lle mae'n rhoi manylion am ei dad, Sima Tan, a rhywfaint o'i hanes ei hun. Ceir hefyd fywgraffiad diweddarach ohono. Rhwng 140 CC a 110 CC, roedd ei dad, Sima Tan, yng ngwasanaeth yr ymerawdwr Han Wudi fel taishi ling (太史令), seryddwr, sêr-ddewin a hanesydd y llys. Ganed Sima Qian yn Longmen, ger Hancheng yn nhalaith Shaanxi heddiw. Cafodd gefnogaeth ariannol gan ei dad i deithio i gasglu gwybodaeth hanesyddol, gan gyrraedd Kunming yn Yunnan heddiw yn 111 CC. Cyflwynwyd ei adroddiad i'r ymerawdr.

Bu farw ei dad yn 110, ac olynodd Sima Qian ef fel taishi ling yn 108 CC. Dechreuodd gasglu deunydd ar gyfer ei hanes, a dywedir iddo gymeryd rhan yn y gwaith o baratoi calendr newydd yn 104 CC. Yn 99 CC, collodd ffafr yr ymerawdwr oherwydd ei gefnogaeth i'r cadfridog Li Ling. Roedd Li Ling wedi arwain byddin yn erbyn y Xiongnu. Pan ddaeth yn amlwg ei fod yn mynd i gael ei orchfygu, ildiodd Li Ling i'r Xiongnu. Ystyriai'r ymerawdwr y dylai fod wedi marw yn hytrach nag ildio. Amddiffynwyd Li Ling gan Sima Qian, a chan fod hyn yn cael ei ystyried fel beirniadath o'r ymerawdwr, dedfrydwyd ef i gael ei sbaddu.

Mae'r Shiji, neu "Cofnodion y Prif Hanesydd" yn cofnodi hanes Tsieina dors gyfnod o fwy na dwy fil o flynyddoedd, o'r Ymerawdwr Melyn hyn yr ymerawdwr Han Wudi.