Gweler hefyd Simonides o Amorgos.

Bardd Groeg clasurol oedd Simonides (Groeg: Σιμωνίδης) (tua 556468 CC). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei epitaphau er cof am y rhyfelwyr Groegaidd a syrthiodd yn y rhyfeloedd mawr ag Ymerodraeth Persia i amddiffyn annibyniaeth Groeg. Cyfansoddodd nifer o awdlau, emynau a marwnadau hefyd, ond mae rhan helaeth o'i waith ar goll erbyn heddiw.

Ganed y bardd ar ynys Ceos, ger Athen, tua'r flwyddyn 556 CC. Bu fyw am gyfnod yn ninas Athen a threuliodd amser yn Sisilia yn ogystal. Daeth yn enwog iawn a bu noddwyr yn barod i'w wobrwyo'n hael am ei gerddi. Yn ôl y dramodwr comig Aristophanes, roedd yn ŵr ariangar, ond efallai fod cenfigen yn gorwedd tu ôl i'r cyhuddiad hwnnw.

Un o'i gerddi enwocaf oedd ei epitaph i'r Groegiaid a syrthiasai ym Mrwydr Marathon. Fe roddwyd ar feddrod y rhyfelwyr ym Marathon:

Ελλήνων προμαχούντες Αθηναίοι Μαραθώνι
χρυσοφόρων Μήδων εστόρεσαν δύναμιν

Yr Atheniaid, amddiffynwyr y Groegiaid, ym Marathon
a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg.

Cyfansoddodd delyneg am hanes Danaë, merch chwedlonol Acrisius o Argos, hefyd. Dim ond darn ohoni sydd wedi goroesi.

Llyfryddiaeth golygu

Ceir cyfieithiad gan J. Henry Jones o'r darn am Danaë yn y gyfrol Cerddi Groeg Clasurol (Caerdydd, 1989), gol. gan John Gwyn Griffith.