Simwnt Fychan

bardd

Roedd Simwnt Fychan (c.1530 - 1606) yn fardd ac achyddwr o Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Simwnt Fychan
Ganwyd1530 Edit this on Wikidata
Bu farw1606 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, achrestrydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn ddisgybl i'r bardd Gruffudd Hiraethog. Graddiodd yn bencerdd yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1567.

Rhoes drefn a dosbarth ar y gyfyndrefn farddol yn ei gyfrol Pum Llyfr Cerddwriaeth (c.1570), mewn cydweithrediad â Gruffudd Hiraethog. Ysgrifennod yn ogystal sawl llawysgrif ar achyddiaeth.

Fel bardd cyfansoddodd nifer o gerddi mawl a serch ar yr hen fesurau. Roedd yn hyddysg yn yr iaith Ladin hefyd a chyfieithodd rai o gerddi Martial i'r Gymraeg.

Yn ôl rhai o'r testunau ohono yn y llawysgrifau, Simwnt Fychan yw awdur Araith Wgon, un o'r enwocaf o'r Areithiau Pros.

Llyfryddiaeth golygu

Mae gwaith barddonol Simwnt yn aros yn y llawysgrifau. Ceir manylion pellach yn:

  • Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968)
  • G.J. Williams ac E.J. Jones, Gramadegau'r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934)