Koca Mi‘mār Sinān Āġā, (Tyrceg Ottoman: قوجو معمار سنان آغا) Mimar Sinan) (15 Ebrill 1489 - 9 Ebrill 1588) oedd prif bensaer Ymerodraeth yr Otomaniaid dros gyfnod o 50 mlynedd. Gwasanaethodd dan dri Swltan: Suleiman I, Selim II a Murad III. Bu'n gyfrifol am adeiladu dros 300 o adeiladau o faint sylweddol.

Sinan
Ganwydc. 1490 Edit this on Wikidata
Ağırnas Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1588 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, peiriannydd sifil, gwyddonydd, cynlluniwr trefol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFerhat Pasha Mosque, Banya Bashi Mosque, Şehzade Mosque, Süleymaniye Mosque, Selimiye Mosque, Mehmed Paša Sokolović Bridge, Stari Most Edit this on Wikidata
PriodFatma Nur Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd ef i deulu Cristnogol yn Ağırnas (Mimarsinanköy heddiw), ger Kayseri yn Anatolia. Yn 1512, daeth dan orfodaeth filwrol, ac ymunodd â chorfflu'r janisariaid, lle gorfodwyd ef i droi at Islam. Hyfforddwyd ef fel pensaer yn y cyfnod yma.

Ystyrir mai ei gampwaith yw Mosg Selimiye yn Edirne. Yr enwocaf o'i weithiau yw Mosg Suleiman yn Istanbul. Bu'n gyfrifol am hyfforddi nifer o benseiri amlwg eraill, yn cynnwys Sedefhar Mehmet Ağa, pensaer Mosg Swltan Ahmed yn Istanbul.

Cyfeiriadau golygu