Sir Ddinbych (hanesyddol)

cyn-sir

Roedd Sir Ddinbych yn un o’r 13 sir hanesyddol yng Nghymru a bodolai cyn adrefnu llywodraeth leol ar 1 Ebrill 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd yn cael ei ffinio i'r gogledd gan Fôr Iwerddon, i'r dwyrain gan Sir y Fflint, Swydd Gaer a Swydd Amwythig, i'r De gan Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd ac i'r Gorllewin gan Sir Gaernarfon.

Sir Ddinbych
Sir Ddinbych yng Nghymru (cyn 1974)
Mathsiroedd hynafol Cymru Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDinbych Edit this on Wikidata
Poblogaeth228,781 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1535 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaSir Feirionnydd, Sir Gaernarfon, Sir y Fflint, Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.125°N 3.406°W Edit this on Wikidata
Map
Daearyddiaeth
1831 Tiriogaeth 386,052 acr (1,562.30 km2)
1911 Tiriogaeth 426,084 acr (1,724.30 km2)[1]
1961 Tiriogaeth 427,978 acr (1,731.97 km2)[1]
Pencadlys Dinbych a Rhuthun
Côd Chapman DEN
Hanes
Demograffeg
1831 poblogaeth
- 1831 dwysder
83,629[2]
0.2/acre
1911 poblogaeth
- 1911 dwysder
144,783[1]
0.3/acre
1961 poblogaeth
- 1961 dwysder
174,151[1]
0.4/acre
Gwleidyddiaeth
Llywodraeth Cyngor sir Ddinbych (1889-1974)

Daeth yr hen Sir Ddinbych i ben gyda chreu'r sir newydd Clwyd ym 1974. Crëwyd sir newydd o'r enw Sir Ddinbych ym 1996 ond gyda ffiniau tra gwahanol i'r sir hanesyddol.

Hanes golygu

Sefydlwyd Sir Ddinbych trwy Ddeddfau Uno 1535-1542 o ardaloedd a oedd cynt yn rhan o'r Mers.

Daearyddiaeth golygu

Yn ne a gorllewin yr hen sir, mae mynyddoedd Moeliau Clwyd yn codi o 1,000 i 2,500 troedfedd (760 m) o uchder. Mae'r dwyrain yn fryniog. Mae rhywfaint o dir lefel ar hyd y stribed arfordirol. Y pwyntiau uchaf yw Moel Sych a Chader Berwyn ar 2,713 troedfedd (827 m). Mae Pistyll Rhaeader yn rhaeadr drawiadol 240 troedfedd (73 m). Y prif afonydd yw'r Glwyd a'r Ddyfrdwy. Mae Afon Conwy yn rhedeg i'r gogledd ar hyd y ffin orllewinol.

Prif drefi'r sir oedd Abergele, Mochdre, Dinbych, Bae Cinmel, Llangollen, Llanrwst, Wrecsam, Bae Colwyn a Rhuthun. Daeth pentrefi fel Llansanffraid Glan Conwy, Eglwysbach a Llansannan hefyd o dan Sir Ddinbych. Y diwydiannau pwysicaf oedd amaethyddiaeth a thwristiaeth.

Llywodraeth leol golygu

Crëwyd sir weinyddol Sir Ddinbych ym 1889 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 [3]. Cafodd y sir ei lywodraethu gan gyngor sir etholedig, a gymerodd drosodd swyddogaethau llysoedd Sesiynau Chwarter.

Cafodd y sir weinyddol ei rhannu'n fwrdeistrefi trefol a rhanbarthau trefol a gwledig.

Diwygiwyd bwrdeistrefi Dinbych a Rhuthun yn 1835 gan Ddeddf Corfforaethau Bwrdeistrefol 1835. Ymgorfforwyd trydedd fwrdeistref sirol Wrecsam ym 1857. Ymgorfforwyd ardal drefol Bae Colwyn ym 1934.

Ffurfiwyd tair ardal drefol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1894: Abergele a Pensarn (a enwyd yn Abergele ym 1935), Bae Colwyn a Cholwyn (a enwyd Bae Colwyn ym 1926, a'i ymgorffori fel bwrdeistref ym 1934) a Llangollen, fel olynwyr i ardaloedd glanweithdra trefol. Ym 1897 ffurfiwyd ardal drefol Llanrwst.

Ffurfiwyd wyth ardal wledig (hefyd gan Ddeddf 1894), yn seiliedig ar y cyn ardaloedd glanweithdra gwledig: Y Waun, Llangollen, Llanrwst, Llansilin, Rhuthun, Llanelwy (Dinbych), Uwchaled a Wrecsam.

Dosbarthwyd dau blwyf sifil: Llaneilian yn Rhos a Llansanffraid Glan Conwy fel rhan o Ardal Wledig Conwy yn sir gyfagos Sir Gaernarfon. Weithiau gelwir yr ardal hon yn Ardal Wledig Glan Conwy.

Ym 1935, ad-drefnwyd yr ardaloedd gwledig gan Orchymyn Adolygu'r Sir, ac fe'u cwtogwyd i bump o ran nifer: Aled, Ceiriog, Hiraethog, Rhuthun a Wrecsam.

Diddymwyd y sir weinyddol ym 1974, gyda'r rhan fwyaf o'i diriogaeth yn dod yn rhan o ardaloedd newydd Colwyn, Wrecsam Maelor a Glyn Dŵr yng Nghlwyd. Cynhwyswyd ardal drefol Llanrwst a phum plwyf gwledig yng Ngwynedd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Vision of Britain - Denbighshire population (area and density)
  2. Vision of Britain - 1831 Census
  3. "DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1888 - Y Celt". H. Evans. 1888-12-07. Cyrchwyd 2018-11-25.