Bydd siro-cwmwlws (neu awyr-draeth, traeth awyr) yn ffurfio clytiau neu haen uchel o gymylau mân sydd, yn aml iawn, wedi eu gosod yn llinellau tebyg i batrwm traeth awyr (altocwmwlws).

Cwmwl siro-cwmwlws

Dywed Myrddin Fardd amdanynt: ‘Taen gymylau llwyd-wyn, un ffunud mewn ffurf ac ymddangosiad ag ôl tonau ar dywod-draeth wedi i'r môr fod yn ymdoni arno dan awel y gwynt, yr hwn yr ystyrid yn flaen-arwydd sicr, gan werin syml y dyddiau fu, fod ystorm gerllaw’.[1]

Enwau eraill arnynt yw croen macrell (sy'n cyfateb i'r mackrel sky yn y Saesneg) yn y Gogledd a cymylau caws a maidd, cymylau caws a llaeth neu ffedog y ddafad yn y De. Maent yn aml yn arwydd bod ffrynt gynnes yn dynesu ac y bydd y tywydd yn dirywio nes ceir glaw ymhen rhyw hanner diwrnod.

Cyfystyron lleol golygu

  • Awyr draeth - glaw drannoeth (Llanfair Mathafarn Eithaf)
  • Cymylau traeth – glaw (Ystalafera)
  • Awyr fel croen macrell – gwynt a glaw ymhen chwech awr (Y Bermo)
  • Ffedog y ddafad – glaw cyn bo hir (ar lafar yn y De)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwerin Eiriau Sir Gaernarfon (1907), Myrddin Fardd
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).