Enw ar y siroedd hanesyddol yn ne-ddwyrain Lloegr sy'n amgylchynu Llundain yw'r Siroedd Cartref[1] (Saesneg: Home Counties). Gan amlaf mae'n cynnwys Berkshire, Swydd Buckingham, Essex, Swydd Hertford, Caint, Surrey, a Sussex. Weithiau cynhwysir Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt, Hampshire a Swydd Rydychen.

Siroedd hanesyddol sy'n amgylchynu Llundain (ffiniau 1889). 1. Swydd Buckingham, 2. Swydd Hertford, 3. Essex, 4. Berkshire, 5. Middlesex, 6. Surrey, 7. Caint, 8. Sussex, a Sir Lundain (melyn). Bellach, nid yw Middlesex yn bodoli fel sir ac mae'r rhan fwyaf ohoni yn rhan o Lundain Fwyaf sy'n fwy o faint na sir hanesyddol Llundain a ddangosir yn y map hwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [home: the Home Counties].
  Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.