Siroedd cadwedig Cymru

hen siroedd

Siroedd cadwedig Cymru yw'r ardaloedd cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru at ddibenion seremonïol Rhaglawiaeth a Siryfiaeth. Maent yn seiliedig ar y siroedd a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a ddefnyddiwyd ar gyfer llywodraeth leol a dibenion eraill rhwng 1974 a 1996.

Siroedd Cadwedig (Cymru)
Categori Ardal Rhaglawiaeth
Lleoliad Cymru
Crëwyd gan Deddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994 (c. 19)
Crëwyd 1 Ebrill 1996
Nifer 8 (ar ôl 2008)

Defnydd golygu

Diddymodd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yr wyth sir seremonïol a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fodd bynnag, mae'n creu'r cysyniad o siroedd cadwedig yn seiliedig ar eu hardaloedd, i'w defnyddio at ddibenion megis Rhaglawiaeth. Roedd hyn yn ddefnydd gyfunol gan Ddeddf Rhaglawiaeth 1997.[1]

Cafodd statudau penodol a oedd mewn grym eu diwygio i gynnwys cyfeiriad atyn nhw:

  • Deddf Siryfion 1887 (c. 55) - Y siroedd y penodir Uchel Siryfion iddynt yw'r siroedd cadwedig.
  • Deddf Amddiffyn 1842 (c. 94) - Rhaglawiaid yw'r rhai a benodir i'r siroedd cadwedig.
  • Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (c. 83) - ystyrir bod y rhannau perthnasol o lan y môr o fewn siroedd cadwedig.

Newidiadau Ffinau golygu

Roedd y siroedd cadwedig yn wreiddiol bron yn union fel siroedd 1974-1996, ond gydag ychydig o newidiadau mân er sicrhau bod siroedd cadwedig yn cynnwys prif ardaloedd cyfan. Cafodd Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn eu trosglwyddo o Glwyd i Bowys, a chafodd Y Wig, Saint-y-brid, Ewenni a Phentyrch eu trosglwyddo o Forgannwg Ganol i Dde Morgannwg. Fodd bynnag, mae'r newidiadau hyn yn dal i adael dwy fwrdeistref sirol, Conwy a Chaerffili wedi eu rhannu rhwng siroedd cadwedig.

Er mwyn cywiro hyn, gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ddau newid o sylwedd i'r ffiniau. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2003. Cafodd rhan o'r ardal llywodraeth leol o Gonwy a oedd wedi bod yng Ngwynedd ei drosglwyddo i Glwyd, a rhan o'r ardal llywodraeth leol o Gaerffili a oedd wedi bod ym Morgannwg Ganol ei throsglwyddo i Went. Cafodd y ffin rhwng Morgannwg Ganol a De Morgannwg hefyd ei ail-lunio i adlewyrchu newidiadau bychan mewn ffiniau llywodraeth leol. Mae pob sir gadwedig yn awr yn cynnwys rhwng un a phump o ardaloedd llywodraeth leol cyfan.

Newidiwyd y ffin rhwng Morgannwg Ganol ar 1 Ebrill 2010 i adlewyrchu'r newidiadau yn 2009 i ffiniau llywodraeth leol yn ardal Faenor.[3]

Rhestr o Siroedd Cadwedig golygu

Mae'r ffigurau poblogaeth yn amcangyfrifon canol-blwyddyn ar gyfer 2007 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn grwpio ffigurau awdurdodau unedol yn eu siroedd cadwedig priodol.[4]

EnwYn cynnwysArwynebedd (km²)Poblogaeth
ClwydConwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam2,910491,100
DyfedSir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro5,780375,200
GwentBlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen1,553560,500
GwyneddGwynedd, Ynys Môn3,262187,400
Morgannwg GanolPen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf781423,200
PowysPowys5,196 132,000
De MorgannwgCaerdydd, Bro Morgannwg475445,000
Gorllewin MorgannwgCastell-nedd Port Talbot, Abertawe820365,500

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu