Siva Tau

dawns her, dawns ryfel, Ffiji

Mae Mano Siva Tau yn ddawns ryfel Samoaidd, a berfformir gan dimau chwaraeon y Samoiaid cyn pob gêm.

Tîm rygbi'r gynghrair yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan Rygbi'r Gynghrair y Byd 2013
Tîm Samoa yn perfformio'r Siva Tau cyn gêm yn erbyn De Affrica, CRB 2007

Arferai tîm rygbi cenedlaethol berfformio'r Maulu'ulu Moa traddodiadol ar daith. Cyn Cwpan Rygbi'r Byd 1991, cyfansoddwyd siant rhyfel 'Manu', ystyriwyd ei fod yn fwy effeithiol wrth gynhyrfu'r chwaraewyr a'r dorf.[1]

Mae tîm cenedleaethol Samoa yn y gamp pêl-droed rheolau Awstralaidd yn perfformio’r Siva Tau yn ei ymddangosiadau yng Nghwpan Rhyngwladol.

Yn y gamp reslo broffesiynnol, yr "WWE", mae tîm ymladd The Usos, yn paentio eu hwynebau gyda arddull Samoaidd ac mae perfformio'r Siva Tau yn rhan o sioe wrth droedio a cychwyn yr ornest yn y cylch.[2]

Mae tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol, Toa Samoa, hefyd yn perfformio'r Siva Tau cyn pob gêm (gyda'r "Toa" yn disodli "Manu" yn y geiriau).

Masnach golygu

Mae'r cysyniad o'r Siva Tau yn ddigon adnabyddus a phoblogaidd fel ei fod yn enw ar gwmni gwneud crysau a deunydd ffitrwydd a chwaeraeon gyda'r geiriau wedi eu hargraffu ar flaen y crys.[3]

Geiriau golygu

Ceir gwahanol geiriau i'r Siva Tau gan amrywio gyda chwaeth a chyd-destun.

"Siva Tau"
Arweinydd: Samoa! Samoa!
Tatou o e tau le taua! Awn i ryfel!
Tau e matua tau! Ymladd yn ffyrnig!
Fai ia mafai! Gwaith i gyflawni!
Le Manu! Y Manu!
Team: Sau ia! Awn ni!
Le Manu Samoa e ua malo ona fai o le faiva

Le Manu Samoa e ua malo ona fai o le faiva

Y Manu Samoa, boed i chi lwyddo yn eich cyrch

Y Manu Samoa, boed i chi lwyddo yn eich cyrch

Le Manu Samoa lenei ua ou sau Y Manu Samoa dyma lle y daethom
Leai se isi Manu oi le atu laulau Does dim un (tîm) Manu unrhyw le
Ua ou sau nei ma le mea atoa Yma rwy wedi paratoi'n llawn
O lou malosi ua atoatoa Rwy yn anterth fy nerth
Ia e faatafa ma e soso ese Gwnewch le, symudwch o'r ffordd
Leaga o lenei manu e uiga ese Achos mae'r Manu yma'n unigryw
Le Manu Samoa Y Manu Samoa
Le Manu Samoa Y Manu Samoa
Le Manu Samoa e o mai I Samoa Mae'r Manu Samoa yn teyrnasu o Samoa
Le Manu! Y Manu!

Gweler Hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.livingheritage.org.nz/Schools-Stories/History-of-the-Manu-Samoa/The-Siva-Tau
  2. Murphy, Ryan. "The Usos: Battle-ready". WWE. Cyrchwyd 27 March 2012.
  3. https://sivatau.com/
  Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.