Siw Hughes

actores a aned yn 1958

Actores a chyflwynwraig Gymreig yw Siw Hughes (ganwyd 16 Ionawr 1958).

Siw Hughes
Ganwyd16 Ionawr 1958 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Fe'i ganwyd ym Mangor a magwyd yn Llangefni ac fe aeth i Ysgol Gyfun Llangefni. Symudodd i Gaerdydd yn yr 1980au i weithio fel athrawes.[1]

Gyrfa golygu

Mae Siw wedi actio ar lwyfan a theledu ers yr 1980au. Roedd ei gwaith cynnar ar deledu yn cynnwys y rhaglen blant Ffalabalam a'r rhaglen gomedi Heno Heno.[2]

Daeth yn adnabyddus iawn am chwarae rhan y cymeriad Kath Jones yn Pobol y Cwm rhwng 1993 a 2007. Dychwelodd i'r gyfres yn Ionawr 2017.

Mae hi'n un o'r actorion craidd sydd wedi cydweithio gyda Caryl Parry Jones ar nifer o gyfresi comedi ar S4C ers yr 1980au a serennodd yn y ffilmiau teledu Steddfod Steddfod a Ibiza, Ibiza.

Bu'n chwarae rhan Gemma Haddon yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref ac enillodd wobr Actores Gorau yng nghwobrau BAFTA Cymru 2014 am ei phortread o'r cymeriad.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofio; Adalwyd ar 2015-12-09
  2. Cofnod Asiant Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd ar 2015-12-09
  3.  British Academy Cymru Awards Winners in 2014. BAFTA Cymru (26 Hydref 2014). Adalwyd ar 18 Awst 2016.

Dolenni allanol golygu