Siwan Davies

Academydd o Gymraes

Athro prifysgol mewn Daearyddiaeth Ffisegol yw’r Athro Siwan Davies[1]. Ar hyn o bryd mae’n bennaeth yr adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Siwan Davies
GanwydSiwan Manon Davies Edit this on Wikidata
20 g Edit this on Wikidata
Trefdraeth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd, gwyddonydd y Ddaear Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auPhilip Leverhulme Prize, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Daw Siwan yn wreiddiol o Drefdraeth yn Sir Benfro, ac mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli. Bu’n astudio Daearyddiaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen cyn mynd ymlaen i wneud gradd meistr a doethuriaeth yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Bu’n gweithio fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Stockholm a Phrifysgol Copenhagen, cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel darlithydd yn 2004. Cafodd gadair prifysgol yn 2012 ac fe’i penodwyd yn bennaeth yr adran Ddaearyddiaeth yno yn 2018.

Ei maes ymchwil yw newid hinsawdd. Mae hefyd wedi cyflwyno cyfres Her yr Hinsawdd ar S4C.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  gwefan Menywod Cymru. Prifysgol Abertawe.
  2.  Archif Newyddion. Prifysgol Abertawe.

Dolenni allanol golygu