Ardal yn Ninas Llundain yw Smithfield (adnabyddir hefyd fel West Smithfield), sy'n ran o ward Farringdon Without. Lleolir yng ngogledd-ddwyrain Llundain ac mae'n adnabyddadwy am ei marchnad cig sydd wedi bod yno am ganrifoedd. Hwn yw'r farchnad cyfanwerthol hanesyddol olaf sydd wedi goroesi yng nghanol Llundain. Mae gan Smithfield hanes waedlyd sy'n cynnwys dienyddiadau hereticiaid a gwrthwynebwyr gwleidyddol,[1] gan gynnwys cymeriadau hanesyddol o bwys megis y gwladgarwr Albanaidd William Wallace, arweinydd Gwrthryfel y Gwerinwyr Wat Tyler a chyfres hir o ddiwygwyr ac anghydffurfwyr crefyddol.

Smithfield
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWard of Farringdon Without Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5187°N 0.1034°W Edit this on Wikidata
Cod postEC1 Edit this on Wikidata
Map
Marchnad Cig Smithfield

Ffynonellau golygu

  1. Dunton Larkin (1896). The World and Its People. Burdett Silver, tud. 24
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.