Snailbeach

pentref yn Swydd Amwythig

Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Snailbeach.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Worthen with Shelve yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Snailbeach
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolWorthen with Shelve
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.6167°N 2.9246°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ375025 Edit this on Wikidata
Map

Bu'n ganolfan mwyngloddio plwm mor bell yn ôl â chyfnod y Rhufeiniaid, yn ôl pob tebyg, ac erbyn y 19g roedd gwaith cloddio plwm Snailbeach ymhlith y mwyaf cynhyrchiol yn Lloegr gyfan. Caewyd y gwaith danddaear yn 1955 ond mae'r tomeni slac yn dal i gael eu defnyddio fel ffynhonnell cerrig mân ar gyfer pebbledashing ayyb.

Erbyn heddiw mae safle'r hen fwynglawdd yn cael ei datblygu fel atyniad i dwristiaid.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 26 Ebrill 2021

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato