Cân boblogaidd yw Sosban Fach, sy'n cael ei harddel fel anthem rygbi tre Llanelli. Sosban yw arwydlun y dref honno.

Hanes golygu

Seiliwyd y gerdd ar bennill a ysgrifennwyd gan Mynyddog yn 1873 (gweler isod) fel rhan o'i gerdd 'Rheolau yr Aelwyd'. Talog Williams, cyfrifydd o Ddowlais, a luniodd y gerdd sydd gennym heddiw trwy newid pennill Mynyddog ac ychwanegu pedwar pennill newydd.[1]

Geiriau golygu

Mae bys Meri-Ann wedi brifo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach.
Mae'r baban yn y crud yn crio,
A'r gath wedi scramo Joni bach.
Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
A'r gath wedi scramo Joni bach.

Dai bach y sowldiwr,
Dai bach y sowldiwr,
Dai bach y sowldiwr,
A chwt ei grys e mas.

Mae bys Meri-Ann wedi gwella,
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae'r baban yn y crud wedi tyfu,
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd.

Pennill gwreiddiol Mynyddog:

Pan fyddo yr aelwyd yn oeri,
A'r anwyd yn dyfod o'r gwaed;
Pan fyddo y trwyn bron a rhewi
A'r winrew ar fysedd y traed;
Pan fo Catherine Ann wedi briwio
A Dafydd y gwas ddim yn iach,
A'r babi yn nadu a chrio
A'r gath wedi crafu John Bach:
Rhowch broc i'r tân,
A chanwch gân
I gadw'r cwerylon o'r aelwyd lân.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, tud. 543.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato