Mae Sousse (Arabeg: سوسة) yn ddinas a phorthladd yn nwyrain canolbarth Tiwnisia, sy'n gorwedd 140 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis, ar Gwlff Hammamet (Môr Canoldir). Sousse yw prif ddinas rhanbarth y Sahel (llysenw: 'perl y Sahel') a phrifddinas talaith Sousse. Mae gan y ddinas boblogaeth o 173,047 o bobl, ffigwr sy'n tyfu i tua 400,000 pan gynhwysir ei maerdrefi allanol, sy'n ei gwneud yr ardal ddinesig 3ydd mwyaf yn Nhiwnisia (ar ôl Tiwnis a Sfax). Maes awyr Sousse yw'r ail brysuraf yn y wlad.

Sousse
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth221,530, 173,047 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthern Tunisia Edit this on Wikidata
SirSousse Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd45 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.83°N 10.63°E Edit this on Wikidata
Cod post4000 Edit this on Wikidata
Map

Mae Sousse yn ddinas hynafol gyda'r mwyaf diddorol yn y wlad. Sefydlwyd dinas Hadrumete (neu Hadrumetum: gelwir Sousse yn Hadramaout gan rai o'i thrigolion hyd heddiw) gan y Ffeniciaid. Roedd yn ddinas Rufeinig lewyrchus a gwelir catacombs o'r cyfnod yno heddiw. Codwyd nifer o adeiladau gwych yn yr hen ddinas (medina Sousse), sydd ar restr safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Erbyn heddiw mae twristiaeth yn ganolog i'r economi ; er nad yw'r ddinas ei hun yn gartref i lawer o westai mawr, mae'n gorwedd yn agos i ganolfannau gwyliau Monastir a Hammamet.

Enwogion golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Néji Djelloul, Sousse, l'antique Hadrumetum (Contraste, 2006)
  • Ameur Baâziz, Si Soussa m'était contée (2005)

Dolenni allanol golygu