Stabat Mater Dolorosa

Olyniad gerddorol (sequence) neu emyn sy'n rhan o litwrgi traddodiadol yr Eglwys Gatholig Rufeinig ar gyfer y Pasg yw'r Stabat Mater Dolorosa, neu'r Stabat Mater. Mae ei awduraeth yn ansicr, ond cred rhai ysgolheigion mai'r bardd ac ysgolhaig Eidalaidd Jacopone da Todi, aelod o Urdd Sant Ffransis, oedd yr awdur. Mae'r Stabat Mater yn disgrifio dolur Mair Forwyn wrth droed y Groes (ystyr y teitl, sy'n dod o linell gyntaf yr emyn, yw "Safai'r Fam ddolurus").

Cân i'w llafarganu yn y dull canoloesol yn yr eglwys oedd y Stabat Mater yn wreiddiol, ond dros y canrifoedd mae sawl cyfansoddwr wedi ei haddasu, yn cynnwys Giovanni Pierluigi da Palestrina, Giovanni Battista Pergolesi, Schubert, Haydn, Rossini (ffurf operatig hir), Verdi, Dvořák a Hristo Tsanoff (2007).

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.