Stadiwm chwaraeon cenedlaethol yr Eidal yw'r Stadio Olimpico. Fe'i lleolir yng nghyfadail chwaraeon y Foro Italico yn Rhufain. Adeiladwyd y stadiwm gwreiddiol ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1960, ond fe'i ail-adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 1990. Mae'n dal 82,000 o bobl. Mae dau dîm pêl-droed y ddinas, S.S. Lazio ac A.S. Roma, yn rhannu'r stadiwm. Ers 2014 mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Eidal wedi chwarae eu gemau cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y Stadio Olimpico tra bod eu cartref arferol, y Stadio Flaminio, yn cael ei adnewyddu.

Stadio Olimpico
Mathstadiwm Olympaidd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol17 Mai 1953 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1928 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhufain Edit this on Wikidata
SirRhufain Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Cyfesurynnau41.9339°N 12.4547°E Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethSport e Salute Edit this on Wikidata
Cost17,000,000 Ewro, 233,000,000,000 lira'r Eidal, 3,400,000,000 lira'r Eidal Edit this on Wikidata
Stadio Olimpico

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu