Star Wars: The Force Awakens

Mae Star Wars: The Force Awakens (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Star Wars: Episode VII – The Force Awakens) yn ffilm opera ofod epig Americanaidd a ryddhawyd yn 2015. Mae wedi'i chynhyrchu, ei chyd-ysgrifennu, a'i chyfarwyddo gan J. J. Abrams.

Star Wars: The Force Awakens
Enghraifft o'r canlynolffilm nodwedd, ffilm 3D Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi16 Rhagfyr 2015, 17 Rhagfyr 2015, 18 Rhagfyr 2015, 9 Ionawr 2016 Edit this on Wikidata
Genreffilm wyddonias, ffilm antur, ffilm llawn cyffro, ffilm ffantasi, opera yn y gofod, ffilm ffuglen ddyfaliadol Edit this on Wikidata
CyfresStar Wars, Star Wars sequel trilogy Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganStar Wars: The Clone Wars Edit this on Wikidata
Olynwyd ganRogue One Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af14 Rhagfyr 2015 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithJakku, Takodana, Starkiller Base (Ilum), D'Qar, Ahch-To Edit this on Wikidata
Hyd138 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrJ. J. Abrams Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrJ. J. Abrams, Kathleen Kennedy, Bryan Burk Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuLucasfilm, Bad Robot Productions, Truenorth, Walt Disney Pictures, Walt Disney Studios Motion Pictures Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohn Williams Edit this on Wikidata[1]
DosbarthyddWalt Disney Studios Motion Pictures, Fórum Hungary, The Walt Disney Company France, Netflix, Disney+ Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddDaniel Mindel Edit this on Wikidata[1]
Gwefanhttp://www.starwars.com/the-force-awakens Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hon yw'r gyntaf o drioleg ddilyniant Star Wars a'r seithfed rhan yng nghyfres Star Wars, yn dilyn Return of the Jedi (1983). Mae'r ffilm yn cynnwys perfformiadau gan yr actorion Harrison Ford, Mark Hamill, Carrie Fisher, Adam Driver, Daisy Ridley, John Boyega, Oscar Isaac, Lupita Nyong'o, Andy Serkis, Domhnall Gleeson, Anthony Daniels, Peter Mayhew, a Max von Sydow. Fe'i cynhyrchwyd gan Lucasfilm Ltd. a chwmni cynhyrchu Abrams Bad Robot Productions, a The Force Awakens oedd y ffilm Star Wars gyntaf na chafodd unrhyw fewnbwn gan grewr y gyfres George Lucas.

Wedi'i gosod 30 mlynedd ar ôl Return of the Jedi, mae'r stori yn seiliedig ar ymdrechion Rey, Finn, a Poe Dameron i ddod o hyd i Luke Skywalker a'r frwydr rhwng y Resistance, sy'n cael ei harwain gan filwyr profiadol y Rebel Alliance, ar y naill ochr, a Kylo Ren a'r First Order, urdd sy'n olynu'r Galactic Empire, ar yr ochr arall.

Cyfeiriadau golygu