Llenor Ffrangeg o Ffrainc oedd Stendhal, sef Henri Beyle (23 Ionawr 178323 Mawrth 1842). Fe'i ystyrir yn un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn llenyddiaeth Ffrainc fel Rhamantwr ac arloeswr realaeth.

Stendhal
FfugenwStendhal, Henri Stendhal, Stendalis, Louis Alexandre Bombet, Anastase de Serpière, Don Flegme, William Crocodile, Dominique Edit this on Wikidata
GanwydMarie-Henri Beyle Edit this on Wikidata
23 Ionawr 1783 Edit this on Wikidata
Grenoble Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1842 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hunangofiannydd, dyddiadurwr, cofiannydd, nofelydd, diplomydd, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Blodeuodd1825 Edit this on Wikidata
Swyddauditor at the Conseil d'État, Consul of France Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Red and the Black, The Charterhouse of Parma, On Love, Memoirs of an Egotist, Mémoires d'un touriste, Vanina Vanini, Lucien Leuwen, Armance, The Life of Henry Brulard, Rome, Naples and Florence, Racine and Shakespeare, Italian Chronicles, Q17358554 Edit this on Wikidata
Arddullnofel seicolegol Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth, Rhamantiaeth Edit this on Wikidata
TadChérubin Beyle Edit this on Wikidata
MamHenriette Gagnon Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Stendhal yn Grenoble, Ffrainc. Yn 1799 symudodd o Grenoble er mwyn astudio ym Mharis, ond yn fuan wedyn rhoddodd heibio astudio a dechreuodd ysgrifennu. Ei uchelgais cyntaf oedd ysgrifennu dramâu, ond bu rhaid iddo ildio i bwysau gan ei deulu a chymryd swydd yn y Weinidogaeth Rhyfel. Mewn canlyniad, cafodd ei anfon i Milan ym Mai 1800. Cafodd ei swyno gan y bywyd milwrol (roedd Napoleon ar ei anterth), yr Eidal, byd yr opera, serch a dedwyddwch. Yn wr swil o dueddiad rhamantaidd a oedd yn casáu rhagrith y gymdeithas fourgeois Ffrengig, sefydlodd er ei fwyn ei hun yr hyn a alwai yn "ddull ymarferol i gael dedwyddwch" (le bonheur), sef "Beylaeth".

Pan gollodd ei fywoliaeth gyda chwymp ymerodraeth Napoleon, ymroddodd yn llwyr i fywyd yr Eidal, cerddoriaeth a chelf. Ysgrifennodd fywgraffiadau Haydn a Mozart ac wedyn hanes paentio yn yr Eidal (Histoire de la peinture en Italie), a'r llyfr taith Rome, Naples et Florence. Yn 1819, wedi ei siomi mewn carwriaeth gyda Matilde Dembowski, ysgrifennodd yr ysgrif De l'amour sy'n ceisio dadansoddi seicoleg cariad. Yn 1827, yn 44 oed, ysgrifennodd ei nofel gyntaf Armance a ddilynwyd gan Le Rouge et le Noir. Daeth yn gonswl Ffrengig yn Civitavecchia ond parhaodd Stendhal i ysgrifennu: yno y dechreuodd ei ddau hunangofiant (Souvenir d'égotisme, Vie de Henry Brulard) a dwy nofel anorffenedig (Lucien Leuwen, Lamiel). Ar ymweliad i Baris ysgrifennodd ei nofel La Chartreuse de Parme a enillodd gymeradwyaeth Honoré de Balzac. Bu farw ym Mharis ar ôl cael trawiad calon yn y stryd ar 23 Mawrth 1842.

Llyfrau golygu

Nofelau golygu

Arall (detholiad) golygu

  • Vies de Haydn, Mozart et Métastase (1815)
  • Histoire de la Peinture en Italie (1817)
  • Rome, Naples et Florence (1817 ac 1827)
  • De l'amour (1822)
  • Racine et Shakespeare (1823, 1825)
  • Vie de Rossini (1823)
  • Promenades dans Rome (1829)
  • Vie de Henry Brulard (1890), hunangofiant

Dolenni allanol golygu