Chwaraewr snwcer proffesiynol sydd bellach wedi ymddeol yw Steve Davis, OBE o Plumstead, Llundain (ganed 22 Awst 1957)[1]. Caiff ei adnabod fel y chwaraewr reolodd y gamp yn ystod y 1980au pan fu'n safle rhif un y byd am saith tymor yn olynol, gan ennill chwech pencampwriaeth byd.  Roedd Steve Davis yn rhan o un o'r gemau snwcer mwyaf cofiadwy erioed, yn erbyn Dennis Taylor yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd 1985, gyda'r diweddglo dramatig ar y bêl ddu, a record o 18.5 miliwn o wylwyr ar deledu Prydeinig. Mae'n ffigwr cyhoeddus adnabyddus ac yn cael ei gyfrif fel un o'r chwaraerwyr snwcer gorau erioed. Hyd nes ei ymddeoliad yn 2016, cyfunodd Davis ei yrfa chwaraer snwcer gyda'i rôl fel dadansoddwr a sylwebydd i raglenni snwcer y BBC, yn ogystal â bod yn DJ cerddoriaeth electronig ar orsaf radio leol Phoenix FM ac mewn amryw o wyliau cerddorol.[2]

Steve Davis
Steve Davis yn Rownd Derfynol Meistri'r Almaen 2012
Ganwyd22 Awst 1957 Edit this on Wikidata
Plumstead Edit this on Wikidata
Man preswylBrentwood Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Alexander McLeod Primary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpool player, ysgrifennwr, chwaraewr snwcer, cyflwynydd chwaraeon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE, Snooker Hall of Fame, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, MBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonLloegr Edit this on Wikidata

Yn ychwanegol i'w chwech teitl pencampwriaeth byd, mae gorchestion gyrfa Davis yn cynnwys tri theitl pencampwriaeth y meistri, a record o chwech teitl pencampwriaeth Prydain. Enillodd gyfanswm o 28 twrnamaint graddedig ( yn bedwerydd ar frig y rhestr tu ôl i Ronnie O'Sullivan, John Higgins a Stephen Hendry[3]) ac mae ei enillion yn cyrraedd dros £5.5 miliwn. Llwyddodd Davis i wneud mwy na 300 o rediadau cystadleuol dros gant, gan gynnwys y rhediad 147 swyddogol cyntaf ar deledu mewn cystadleuaeth proffesiynol, yn erbyn John Spencer yn 1982 ym mhencampwriaeth y Classic. Yn ystod tymor 1987/1988, ef oedd y cyntaf i gyflawni Coron Driphlyg Snwcer, gan ennill Pencampwriaeth Prydain, y Meistri a Phencampwriaeth y Byd yn yr un tymor Mae ei gyflawniadau eraill yn cynnwys enill Pencampwriaeth Dyblau y Byd bedair gwaith gyda Tony Meo ac ennill Cwpan y Byd bedair gwaith gyda Lloegr. 

Enillodd Davis ei deitl byd ddiwethaf yn 1989, a'i prif deitl ddiwethaf wrth ennill y Meistri yn 1997 ag yntau'n 39 oed, ond parhaodd i chwarae snwcer i lefel uchel i mewn i'w bumdegau. Cyrhaedodd rownd derfynol Pencampwriaeth Prydain yn 2005 yn 48 oed, ac roedd yn parhau o fewn 16 ucha'r byd pan drodd yn 50 yn ystod tymor 2007/2008. Cyrhaeddodd rownd y chwarteri ym mehncampwriaeth y Byd 2010, gan golli i John Higgins. Ag yntau'n 52 bryd hynny, ef oedd yr hynaf i fod yn rownd y chwarteri ers Eddie Chartlton yn 1983.[4] Cipiodd deitl Pencampwriaeth y Byd i chwaraewyr hŷn yn 2013.  Ar Ebrill 17 2016, wedi iddod fethu ennill lle ym Mhencampwriaeth y Byd, cyhoeddodd Davis ei fod yn ymddeol o chwarae'n broffesinynol. 

Y tu hwnt i'w yrfa snwcer, cystadlodd Davis mewn twrnameintiau pŵl, gan helpu tîm Ewrop i ennill Cwpan Mosconi yn 1995 a 2002. Mae'n ogystal yn adnabyddus am ei ymddangosiadau mewn digwyddiadau pocer, gan gyrraedd rowndiau terfynol mewn sawl twrnameint. Ers 1996 mae wedi bod yn ddarlledwr cyson ar Phoenix FM ac yn arbenigwr o'r genres roc flaengar fel Zeuhl, RIO a sîn Cantebury. Yn chwaraewr gwyddbwyll brwd, mae'n gyn lwydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydeinig, ac ysgrifennodd lyfr gwyddbwyll ar y cyd gyda David Norwood. Yn ogystal, mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am snwcer, gan gynnwys tri hunangofiant, un llyfr technegol ac un llyfr comedi o'r enw How to Be Really Interesting. Mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu poblogaidd gan gynnwys I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! yn 2013. 

Cyfeiriadau golygu

  1. "Snooker Questions Page 2". 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2010. Cyrchwyd 7 December 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Steve Davis: 'Call me DJ Thundermuscle!'". The Guardian. 10 March 2016. Cyrchwyd 10 March 2016.
  3. "Snooker Stats". worldsnooker.com. World Professional Billiards and Snooker Association. Cyrchwyd 24 May 2011.
  4. "Steve Davis upsets the odds to beat world champion John Higgins". The Guardian. 24 April 2010. Cyrchwyd 14 February 2014.