Steve Jones (cyflwynydd)

Cyflwynydd Cymreig yw Stephen Ashton Jones (ganwyd 16 Mawrth 1977) a ddaeth yn adnabyddus wrth gyflwyno arlwy rhaglenni i'r arddegau T4 ar Channel 4. Yn yr Unol Daleithiau, mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gyflwynydd cyfres gyntaf rhaglen deledu The X Factor USA.

Steve Jones
Ganwyd16 Mawrth 1977 Edit this on Wikidata
Y Rhondda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Jones yn Nhrerhondda (Ferndale) yng Nghwm Rhondda, ac mae'n byw yn Llundain, yn ogystal â Los Angeles, UDA.

Gyrfa golygu

Wedi cychwyn ei yrfa fel model i Esquire, symudodd Jones i fyd teledu drwy gyflwyno rhaglenni fel The Pop Factory Awards gyda Liz Fuller a 99 Things To Do Before You Die. Daeth yn gyflwynwyr rheolaidd ar y slot adloniant i bobl ifanc ar ddydd Sadwrn, T4 ar Channel 4. Yn 2006, gweithiodd ar Transmission with T-Mobile gyda XFM DJ Lauren Laverne.

Yn Chwefror 2009, gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf ar BBC One yn cyflwyno Let's Dance for Comic Relief gyda Claudia Winkleman ac yn ddiweddarach Alex Jones. Yn gynnar yn 2009, cyflwynodd Guinness World Records Smashed ar Sky1 gyda Konnie Huq. Yr un flwyddyn dechreuodd gyflwyno'r sioe gwis ar BBC One, As Seen On TV.[1] Ar yr un sianel, cyflwynodd 101 Ways to Leave a Gameshow yn Mehefin 2010.

Mae Jones wedi actio ychydig. Roedd ganddo ran fach yn y ffilm Angus, Thongs and Perfect Snogging a rhan fel ei hun mewn dwy bennod o'r gyfres deledu Plus One. Yn 2010, roedd ganddo ran fach yn y ffilm It's a Wonderful Afterlife.

Gwnaeth Jones ddylunio a modelu dillad ar gyfer brand mewnol 'Good Souls' i'r Shop Direct Group, ar gyfer eu detholiad Haf/Hydref 2010.[2]

Ar 22 Hydref 2010, cyhoeddwyd y byddai Jones yn gadael T4 ar ôl saith mlynedd. Ei sioe olaf oedd T4 Stars of 2010 ar 21 Tachwedd 2010.[3]

Yn 2010, cyflwynodd Jones sioe gêm Drop Zone ar BBC One lle'r oedd wyth tîm yn wynebu cyfres o heriau corfforol a meddylion mewn chwe lleoliad cyffrous o amgylch y byd.[4]

Fe gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Mai 2011 y byddai Jones yn cyd-gyflwyno The X Factor USA gyda Nicole Scherzinger.[5] Fodd bynnag, yn ddiweddarach dyrchafwyd Scherzinger i'r slot feirniadu gwag wedi ei Cheryl Cole adael, felly fe gyflwynodd Jones y sioe ar ben ei hun. Yn ystod ffilmio cyfres gyntaf X Factor USA yn Los Angeles, ymddangosodd Jones fel gwestai ar The Ellen DeGeneres Show lle bu'n siarad am fod yn fodel, bywyd yn Los Angeles a gweithio ar The X Factor USA.

Yn Rhagfyr 2011, cyflwynodd Jones A Night with Beyoncé, sioe gerddoriaeth byw arbennig ar ITV.

Yn Ionawr 2012, cyhoeddodd Jones ei fod wedi ei ollwng fel cyflwynydd The X Factor USA.[6] Ar ôl llawer o ddamcaniaethu, fe wnaeth grëwr y sioe Simon Cowell ddweud y byddai nifer o newidiadau yn cael ei gwneud ar gyfer ail gyfres y sioe. Byddai beirniaid y gyfres gyntaf Paula Abdul a Nicole Scherzinger ddim yn dychwelyd chwaith.

Yn Chwefror 2012, cyflwynodd Jones Let's Dance for Sport Relief ar gyfer y BBC, y pedwaredd cyfres o'r sioe i godi arian. Mewn datganiad dywedodd Jones "Y BBC, Let's Dance, ac Alex Jones... tri o fy hoff bethau. Allwn ni ddim bod wedi gofyn am sioe well i ddod adref iddo... alla'i ddim aros!".

Yn 2014, cyflwynodd Jones y sioe realaeth Hair ar BBC Three. Adnewyddwyd y gyfres yn 2015 a symudodd i BBC Two. Ar yr ail gyfres, cymerwyd lle Jones gan y ddigrifwraig Katherine Ryan.[7]

Yn 2014, cyd-gyflwynodd Jones dwy gyfres o sioe goginio Channel 4, Weekend Kitchen with Waitrose gyda Lisa Snowdon a ddarlledwyd bob bore Sadwrn.[8]

Yn 2015, cyflwynodd Young, Free & Single: Live ar E4.

Yn 2016, dechreuodd Jones gyflwyno My Kitchen Rules: UK, sioe gêm goginio ar Channel 4.[9] Ar 29 Ionawr 2016, cyhoeddwyd y byddai Jones yn ymuno gyda Goedele Liekens fel cyd-gyflwynydd ar gyfres newydd o Sex Box ar Channel 4.[10]

Yn March 2016, cyhoeddwyd y byddai Jones yn brif gyflwynydd darllediadau Formula One ar Channel 4.[11] Bydd yn cyflwyno 10 ras fyw a 11 sioe uchafbwyntiau.

Ffilmyddiaeth golygu

Blwyddyn Teitl Sianel Rhan Nodiadau(s)
2002–2003 The Pop Factory Awards ITV Wales Cyd-gyflwynydd
2003 99 Things to Do Before You Die Five
2003–2010 T4 Channel 4 Cyd-gyflwynydd
2006–2007 Transmission Cyd-gyflwynydd 3 cyfres
2008 When Women Rule the World Cyflwynydd 1 cyfres
2009–2013 Let's Dance for Comic/Sport Relief BBC One Cyd-gyflwynydd 5 cyfres
2009 Guinness World Records Smashed Sky1 Cyd-gyflwynydd 1 cyfres
As Seen on TV BBC One Cyflwynydd 1 cyfres
2010 101 Ways to Leave a Gameshow Cyflwynydd 1 cyfres
2010 Drop Zone Cyflwynydd 1 cyfres
2011 The X Factor USA Fox Cyflwynydd Cyfres 1
A Night with Beyoncé ITV Cyflwynydd Rhaglenn arbennig
2013 Totally Senseless Cyflwynydd Peilot
2014 Hair BBC Three Cyflwynydd 1 cyfres
2014 Weekend Kitchen with Waitrose Channel 4 Cyd-gyflwynydd 2 cyfres
2015 Young, Free & Single: Live E4 Cyflwynydd 1 cyfres
2016— Formula One Channel 4 Cyflwynydd
2016 Guy Martin's Wall of Death: Live Cyflwynydd Sioe arbennig
2016— My Kitchen Rules: UK Cyflwynydd Cyfres i ddod
Sex Box Cyd-gyflwynydd Cyfres i ddod
Ffilm
Blwyddyn Teitl Rhan
2008 Angus, Thongs and Perfect Snogging Jem
2010 It's a Wonderful Afterlife Gohebydd
2011 Chalet Girl Gohebydd

Cyfeiriadau golygu

  1. Steve Jones to host new BBC One entertainment show, As Seen On TV BBC Press Office 2009-04-08
  2. TV's Steve Jones talks fashion Archifwyd 2010-08-21 yn y Peiriant Wayback. FHM.com 2010-08-17
  3. Steve Jones leaves Channel 4's T4 BBC News, 24 Hydref 2010
  4. "BBC One - Drop Zone". Bbc.co.uk. 19 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 25 Awst 2012.
  5. "Nicole Scherzinger, Steve Jones to host 'X Factor' USA - X Factor USA News - Reality TV". Digital Spy. 8 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-15. Cyrchwyd 25 Awst 2012.
  6. "Steve Jones: 'I'm not hosting X Factor USA season two' - X Factor USA News - Reality TV". Digital Spy. 31 Ionawr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 25 Awst 2012.
  7. "BBC News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-09. Cyrchwyd 2016-03-08.
  8. "Digital Spy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2016-03-08.
  9. Digital Spy
  10. http://www.channel4.com/info/press/news/steve-jones-joins-goedele-liekens-to-co-host-c4s-sex-box-series/
  11. http://www.digitalspy.com/tv/news/a786079/steve-jones-will-be-joined-by-murray-walker-and-eddie-jordan-on-channel-4s-formula-1-presenting-team/

Dolenni allanol golygu