Streic Glowyr Cymru 1898

Anghydfod diwydiannol yn ne Cymeu oedd Streic Glowyr Cymru 1898. Dechreuodd fel ymgais gan y glowyr, dan arweiniaid William Abraham (Mabon) i gael gwared ar y system o amrywio eu cyflogau ar sail pris glo, y sliding scale. Clowyd y gweithwyr allan gan y cyflogwyr, a pharhaodd hyn am chwe mis. Yn y diwedd, bu raid iddynt ddychwelyd i'r gwaith heb lwyddo yn eu hamcan.

Cartŵn yn y Western Mail gan JM Staniforth yn tynnu sylw at ddiffyg cyfathrebu rhwng yr arweinwyr a'r gweithwyr ar ddechrau'r streic.

Ystyrir y streic yma yn garreg filltir bwysig yn natblygiad undebaeth lafur yn ne Cymru. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru o ganlyniad i fethiant y streic.