Sue Jones-Davies

actores a aned yn 1949

Actores a chantores Gymreig yw Sue Jones-Davies (ganwyd 1 Ionawr 1949) a actiodd fel Judith Iscariot yn y ffilm Monty Python's Life of Brian yn 1979. Roedd hi'n faer Aberystwyth o 2008 tan 2009 ac mae'n gynghorydd tref bellach.[1][2]

Sue Jones-Davies
Ganwyd1 Ionawr 1949 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, gwleidydd, canwr, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodChris Langham Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Sue Jones-Davies yng Nghymru yn 1949 a bu'n byw yn Ninas, Sir Benfro. Graddiodd o Brifysgol Bryste gyda gradd mewn Saesneg.

Gyrfa golygu

Gweithiodd Jones-Davies yn Llundain am sawl blwyddyn. Ymddangosodd yn y cynhyrchiad gwreiddiol o Jesus Christ Superstar yn West End Llundain.[3] Mae cydnabyddiaethau arall yn cynnwys Life of Brian, Radio On, Rock Follies, French and Saunders, Victoria Wood As Seen On TV a Brideshead Revisited. Drwy ei rhan yn Rock Follies cafodd sengl yn y siartiau gyda "OK" mewn partneriaeth a Julie Covington, Rula Lenska a Charlotte Cornwell, gan gyrraedd rhif 10 yn Mehefin 1977.[4] Yn Awst 1976, roedd Jones-Davies ar y rhestr fer i gael i rhan Leela yng nghyfres Doctor Who ar y BBC, ond enillwyd y rhan gan Louise Jameson.[5]

Yn y 1970au roedd hi'n canu yn y The Bowles Brothers Band. Mae'n canu gyda'r grŵp acwstig gwerin Cusan Tan[6] ynghyd â Annie Jones. Mae hi wedi ymddangos yn achlysurol ar raglenni Cymraeg. Yn 1981, chwaraeodd ran Megan Lloyd George, merch y prif weinidog yng nghyfres The Life And Times Of David Lloyd George y BBC.[7]

Mae hi nawr yn gynghorydd Plaid Cymru yng Nghyngor Tref Aberystwyth.[8]

Rhwng Mehefin 2008 a Mai 2009,[9] bu'n gwasanaethau fel Maer Aberystwyth, a trefnodd ddangosiad o Life of Brian.[10][11] Yn Mehefin 2008 fe gyfwelwyd Jones-Davies ar BBC Radio Wales a BBC Radio 2 am y ffilm a'i statws yn Aberystwyth. Fe'i broffilwyd hefyd ar Woman's Hour, BBC Radio 4. Dangoswyd y ffilm ar 28 Mawrth 2009 yng Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth a daeth dau aelod Monty Python, Michael Palin and Terry Jones i'r dangosiad.[12][13] Darlledwyd y digwyddiad ar BBC One ar 12 Mai 2009 fel rhaglen ddogfen o'r enw Monty Python in Aberystwyth: A Mayor and Two Pythons.[14][15]

Bywyd personol golygu

Cyfarfu ei chyn ŵr, yr actor a'r awdur Chris Langham tra yn y coleg ym Mryste. Fe briododd y ddau yn fuan ar ôl graddio gan ymgartrefu yn Llundain. Mae ganddynt dri mab, Dafydd Jones-Davies, Siencyn Langham a Glyn Langham. Fe wahanwyd y ddau yn ddiweddarach a symudodd hi i Aberystwyth gyda'i tri mab.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hill, Emily (27 Awst 2011). "The amazing Life Of Brian's girlfriend: From her naked film roles and the jailing of her ex-husband to becoming Mayor of Aberystwyth". Daily Mail. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2014.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-12-24.
  3. "1972 London Palace Theatre Production of Jesus Christ Superstar".
  4. http://www.chartstats.com/release.php?release=7211
  5. Doctor Who: The Face of Evil. BBC DVD/2Entertain. ISBN 0-7806-8517-2
  6. "Profile: Cusan Tan". Ceolas celtic music archive. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2008.
  7. "Sue Jones-Davies". BBC. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2014.
  8. "In pictures: First impressions from Aberystwyth". BBC. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2008.
  9. "Nick Bourne blog". 27 Mai 2009. Cyrchwyd 10 Mai 2010.
  10. "Town ends Python film 30-year ban". BBC News. 27 Chwefror 2009. Cyrchwyd 10 Mai 2010.
  11. "Once Banned, Monty Python Flick Returns To Town". National Public Radio. 8 Mawrth 2009. Cyrchwyd 10 Mai 2010.
  12. "Monty Python stars flout Aberystwyth film 'ban'". Daily Post. 30 Mawrth 2009. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2014.
  13. Johnston, Ian (28 March 2009). "Aberystwyth embraces Monty Python's Life of Brian". The Telegraph. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2014.
  14. "Monty Python in Aberystwyth". BBC. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2014.
  15. McCall, Douglas (2014). Monty Python : A Chronology, 1969-2012 (arg. 2). Jefferson, North Carolina: McFarland & Company, Inc. t. 282. ISBN 978-0-7864-7811-8.

Dolenni allanol golygu