Suits (cyfres deledu)

Cyfres deledu drama gyfreithiol Americanaidd yn yr iaith Saesneg yw Suits. Mae wedi'i chreu a'i hysgrifennu gan Aaron Korsh, a'i chynhyrchu gan Universal Cable. Dangoswyd Suits am y tro cyntaf ar rwydwaith USA ar 23 Mehefin 2011. Mae'r rhaglen wedi'i gosod mewn cwmni cyfreithiol (ffuglennol) yn Ninas Efrog Newydd. Canolbwynt y rhaglen yw Mike Ross (Patrick J. Adams), dyn ifanc talentog a adawodd y coleg heb gwblhau ei astudiaethau, sy'n cael gwaith fel cyfreithiwr cyswllt i Harvey Specter (Gabriel Macht), er nad yw erioed wedi mynychu ysgol gyfraith.[1] Mae'r rhaglen yn dilyn hynt a helyntion Harvey a Mike wrth ymdrin â gwahanol achosion tra'n ceisio cadw cyfrinach Mike yn ddiogel.[2]

Suits
GenreLegal drama
Crëwyd ganAaron Korsh
Yn serennu
Thema agoriadol"Greenback Boogie" gan Ima Robot
Cyfansoddwr/wyrChristopher Tyng
GwladUDA
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o dymhorau9
Nifer o benodau134 (rhestr penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredol
  • Doug Liman
  • Dave Bartis
Cynhyrchydd/wyr
  • Gene Klein
  • Gabriel Macht
  • Patrick J. Adams
Lleoliad(au)
SinematograffiDan Stoloff
Gosodiad cameracamera sengl
Hyd y rhaglen42 munud
Cwmni cynhyrchu
  • Untitled Korsh Company
  • Hypnotic Films & Television
  • Universal Cable Productions
  • Open 4 Business Productions
DosbarthwrNBCUniversal Television Distribution
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolUSA Network
Fformat y llun1080i (16:9 HDTV)
Fformat y sainDolby Digital 5.1
Darlledwyd yn wreiddiolMehefin 23, 2011 (2011-06-23) – presennol
Dolennau allanol
Gwefan

Mae Suits wedi'i enwebu am nifer o wobrau ers 2012, gyda Gina Torres a Patrick J. Adams yn derbyn clod fel unigolion am eu rhannau fel Jessica Pearson a Mike Ross. Yn ychwanegol at ddau enwebiad yn cydnabod ei rhan fel actores ategol, derbyniodd Torres wobr am Berfformiad Rhagorol mewn Cyfres Deledu yng Ngwobrau Impact NHMC yn 2013. Cafodd Adams ei enwebu am Berfformiad Rhagorol gan Actor Gwrywaidd mewn Cyfres Ddrama yng Ngwobrau Urdd yr Actorion Sgrin yn 2012, ac mae'r rhaglen ei hun wedi'i henwebu ddwywaith yng Ngwobrau Dewis y Bobl.

Yn Awst 2016, cafodd y rhaglen ei hadnewyddu am seithfed tymor/cyfres o 16 pennod, gyda'r bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar 12 Gorffennaf 2017.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Exclusive: More USA Summer Premieres: "Burn Notice," "Suits" on Thursday, June 23; "Royal Pains," "Necessary Roughness" on Wednesday, June 29". The Futon Critic. Cyrchwyd April 8, 2011.
  2. Levine, Stuart (January 19, 2011). "USA expands slate with two new series". Variety. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-23. Cyrchwyd February 12, 2011.