Gŵyl Gristnogol symudol yw'r Sulgwyn a gynhelir ar yr wythfed Sul ar ôl y Pasg. Mae'n dathlu disgyn yr Ysbryd Glân ar yr Apostolion ac yn seiliedig ar yr 'Ŵyl yr Wythnosau' Iddewig. Gellir olrhain ei dathlu i'r 3ed ganrif OC.

Y Pentecost: murlun Groegaidd.
Gwerinwyr ar eu ffordd i ddathlu'r Sulgwyn. Rwsia, 1902. Darlun gan Sergey Korovin.

Yr enw Lladin ar yr ŵyl yw Pentecost, sy'n deillio o'r gair Groeg pentikosti, sef 'y 50fed ddiwrnod' (ar ôl y Pasg). Enwir sawl enwad a mudiad Cristnogol yn 'Bentecostaidd'.

Defodau golygu

Er ei bod yn ŵyl fawr yn y calendr eglwysig, cymharol ychydig o ddefodau ac arferion poblogaidd sy'n gysylltiedig â hi, efallai am nad oes cysylltiad amlwg â gŵyl baganaidd. Un ddefod hynod a gynhelid ar y Sulgwyn yng Nghymru oedd defod 'Y Pren Dedwydd'. Coeden anghyffredin gyda hollt fawr wrth ei gwaelod oherwydd ymrannu'r pren yn ddwy gangen sy'n cyffwrdd eto wedyn i dyfu'n rheolaidd oedd hon, a safai ar ystâd y Plas Hen yn Llŷn, Gwynedd. Byddai'r werin bobl yn ymgynnull yno ar y Sulgwyn i geisio basio trwy'r hollt: dedwyddwch a gai'r rhai a fedrai hynny. Credir fod hyn yn deillio o ddefod yn ymwneud â ffrwythlondeb, rhyw a genedigaeth. Arfer arall yn Llŷn ar y Sulgwyn oedd i ferched sefyll gyda'u dwylo tu ôl i'w cefnau a cheisio dal oen yn eu dannedd wrth ei wlân. Rhoddid yr enw 'Brenhines yr Oen' ar bwy bynnag a lwyddai i wneud hynny ac yfid 'Cwrw Oen'.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, 1930; arg. newydd 1979), tud. 160.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.