Awdur o Tsieina oedd Sun Tzu (Pinyin: Sūn Zǐ, "Meistr Sun", tua 544—496 CC). Mae'n adnabyddus fel awdur y llyfr Sūnzǐ Bīngfǎ ("Celfyddyd Rhyfel"), llyfr eithriadol o ddylanwadol ar gelfyddyd filwrol.

Sun Tzu
Ganwyd孫武 Edit this on Wikidata
c. 544 CC Edit this on Wikidata
Qi Edit this on Wikidata
Bu farwGusu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethQi, Wu Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athronydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCelfyddyd Rhyfel Edit this on Wikidata
TadSun Ping A Edit this on Wikidata
PlantSun Ming Zi Edit this on Wikidata
PerthnasauSun Jian Edit this on Wikidata

Nid yw haneswyr yn cytuno a oedd Sun Tzu yn gymeriad hanesyddol ai peidio. Yn ôl yr hanesydd Sima Qian, yn ysgrifennu yn yr 2 CC, ganed Sun Tzu yng ngwladwriaeth Ch'i, a bu'n gadfridog i frenin teyrnas Wu. Mae eraill yn dyddio'r llyfr Sūnzǐ Bīngfǎ i gyfnod ddiweddarach, sef Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar (403–221 CC), ar sail ei ddisgrifiad o ryfel.

Dyma rai o ddyfyniadau o Sūnzǐ Bīngfǎ:

知彼知己,百戰不殆;不知彼而知己,一勝一負;不知彼,不知己,每戰必殆 Os ydym yn adnabod y gelyn ac yn adnabod ein hunain ni chawn ein curo o fewn can brwydr, os nad ydym yn adnabod y gelyn ond yn adnabod ein hunain, cewn un fuddugoliaeth am bob goresgyniad, os nad ydym yn adnabod nid y gelyn na ni ein hunain, byddem yn colli pob brwydr.

是故百戰百勝,非善之善者也;不戰而屈人之兵,善之善者也 Nid yw brwydro canwaith ac enill canwaith yn gystal camp a chael gafael o luoedd y gelyn heb ymladd o gwbl.