Sylfaenydd Gweriniaeth Tsieina (1911-1928) oedd Sun Zhongshan 孫中山 neu Sun Yixian/Sun Yat-sen 孫逸仙 (12 Tachwedd 186622 Chwefror 1925) .

Sun Yat-sen
Ganwyd12 Tachwedd 1866 Edit this on Wikidata
Tripteroides Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1925 Edit this on Wikidata
o canser yr afu Edit this on Wikidata
Ysbyty Coleg Meddygol Undeb Peking Edit this on Wikidata
Man preswylSan Francisco, Haxell's Hotel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Tsieina, Brenhinllin Qing Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Queen's College
  • Punahou School
  • ʻIolani School
  • Hong Kong College of Medicine for Chinese
  • Boji Medical College
  • Li Ka Shing Faculty of Medicine Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, meddyg, athronydd Edit this on Wikidata
SwyddExtraordinary President of the Republic of China, Great President of the Republic of China Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Nanjing Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluDongguan Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolKuomintang, Tongmenghui Edit this on Wikidata
TadSun Dacheng Edit this on Wikidata
MamMadame Yang Edit this on Wikidata
PriodLu Muzhen, Chen Cuifen, Haru Asada, Kaoru Otsuki, Soong Ching-ling Edit this on Wikidata
PlantSun Fo, Sun Wan, Fumiko Miyagawa, Sun Yan Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Sefydliad Cenedlaethol Edit this on Wikidata
llofnod
Delwedd:Signature of Sun Yat Sen - China Document - dark version.svg, The signature of Sun Yat-sun.svg

Ganed ef ym mhentref Cuiheng, yn rhanbarth Guangdong. Astudiodd mewn ysgol genhadol a daeth yn Gristion. Yn ddiweddarach, aeth i Hawaï i astudio, gan ddychwelyd i Tsieina yn 1883. Aeth i Hong Kong i astudio meddygaeth, gan raddio yn 1892. Daeth i gredu fod yn rhaid i Tsieina foderneiddio, a dod yn weriniaeth, gan wneud i ffwrdd a’r ymerodraeth. Dychwelodd i Hawaii am gyfnod, a sefydlodd gymdeithas y Xingzhong Hui. Ar 29 Rhagfyr 1911, yng nghanol Chwyldro Xinhai, etholwyd Sun Yat-sen yn arlywydd Gweriniaeth Tsieina. Gorfodwyd yr ymerawdwr Xuantong i gyfyngu ei bwerau i’r Ddinas Waharddedig yn unig, gyda Sun yn rheoli’r wlad. Yn fuan wedyn, bu raid i Sun drosgwyddo swydd arlywydd i Yuan Shikai, yn rhannol oherwydd pwysau o du y fyddin, a symudodd i Japan. Dychwelodd yn 1916 wedi marwolaeth Yuan, ac yn 1917 daeth yn bennaeth Llywodraeth Filwrol Tsieina. Daeth yn gadeirydd y Kwomintang, a sefydlwyd yn 1919. Gyda chymorth yr Undeb Sofietaidd, llwyddodd i gipio de Tsieina o reolaeth yr arglwyddi rhyfel erbyn 1923.

Bu Sun farw yn sydyn yn 1925 yn Beijing, ac olynwyd ef gan Chiang Kai-shek. Claddwyd ef yn Nanking.