Y Super Bowl yw gem bencampwriaeth flynyddol y National Football League (NFL). Mae'r gêm yn uchafbwynt i dymor sy'n dechrau ddiwedd haf y flwyddyn galendr flaenorol. Fel arfer, mae rhifolion Rhufeinig yn cael eu defnyddio i adnabod pob gêm yn unigol, yn hytrach na blwyddyn ei chynnal. Er enghraifft, chwaraewyd Super Bowl I ar 15 Ionawr 1967, yn dilyn tymor 1966. Yr unig eithriad i'r confensiwn hwn oedd Super Bowl 50, a chwaraewyd ar 7 Chwefror 2016, yn dilyn tymor 2015, ond dychwelwyd i'r rhifolion Rhufeinig LI ar ddiwedd y tymor canlynol.

Super Bowl XLVII yn New Orleans.

Cafodd y gêm ei chreu fel rhan o'r cytundeb i uno'r NFL a'r American Football League (AFL). Cytunwyd y byddai enillwyr y ddwy gynghrair yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn Gêm Bencampwriaeth Byd tan y byddai'r cyfuno yn dechrau yn swyddogol yn 1970. Ar ôl y cyfuno, cafodd y ddwy gynghrair eu galw'n ddwy "conference", a byddai ddau dim oedd wedi dod i'r brig yn wynebu ei gilydd i benderfynu pwy oedd pencampwyr yr NFL.

Mae diwrnod y Super Bowl yn cael ei alw'n "Super Bowl Sunday" ac yn cael eu ystyried gan lawer yn yr Unol Daleithiau fel gwyliau cenedlaethol answyddogol.[1][2] Mae'r Super Bowl yn un o'r digwyddiadau chwaraeon sy'n cael ei wylio fwyaf yn y byd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Belkin, Douglas (29 Ionawr 2004). "Super Bowl underscores cultural divide". Boston Globe. Cyrchwyd 28 Mehefin 2015.
  2. "Super Bowl Sunday: An Unofficial Holiday for Millions". U.S. Bureau of International Information Programs (IIP). 29 Ionawr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-07. Cyrchwyd 28 Mehefin 2015.
  3. Harris, Nick (31 Ionawr 2010). "Elite clubs on Uefa gravy train as Super Bowl knocked off perch". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 2019-02-03.