Susilo Bambang Yudhoyono

Susilo Bambang Yudhoyono (ganed 9 Medi 1949) yw chweched arlywydd Indonesia. Ef yw'r arlywydd cyntaf i gael ei ddewis yn uniongyrchol mewn etholiad, yn 2004.

Susilo Bambang Yudhoyono
Ganwyd9 Medi 1949 Edit this on Wikidata
Pacitan, Dwyrain Jawa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIndonesia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Military Academy
  • Prifysgol Webster
  • Prifysgol Amaethyddol Bogor
  • United States Army Command and General Staff College
  • Sefydliad Technoleg Sepuluh Nopember
  • United States Army Airborne School
  • Ranger School
  • Fort Moore Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Indonesia Edit this on Wikidata
Taldra177 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratic Party Edit this on Wikidata
PriodAni Yudhoyono Edit this on Wikidata
PlantAgus Harimurti Yudhoyono, Edhie Baskoro Yudhoyono Edit this on Wikidata
Gwobr/audoctor honoris causa, doctor honoris causa, Adhi Makayasa, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Seren Gweriniaeth Indonesia, Bintang Mahaputera, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Urdd Teulu Brenhinol Brwnei, Darjah Utama Temasek, doctor honoris causa of Keiō University, honorary doctor of the Tsinghua University, Uwch Urdd Mugunghwa, Honorary Companion of the Order of Australia, Urdd Abdulaziz al Saud, Urdd Sikatuna, Tatler 500 Indonesia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.presidenri.go.id Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Yudhoyono yn Pacitan, Dwyrain Jawa, yn fab i swyddog yn y fyddin. Astudiodd yn Academi Filwrol Indonesia a daeth yn swyddog yn y fyddin ei hun. Yn y 1980au bu'n astudio busenes yn yr Unol Daleithiau.

Daeth yn aelod o'r llywodraeth yn 2000 dan arlywyddiaeth Abdurrahman Wahid, a daeth yn un o aelodau pwysicaf llywodraeth Wahid. Parhaodd yn aelod o lywodraeth Megawati Sukarnoputri, gan arwain yr ymchwiliad i'r bomio yn Bali ym mis Hydref 2002. Ymddiswyddodd ym mis Mawrth 2004, cyn gorchfygu Megawati yn yr etholiad arlywyddol. Ar 20 Hydref 2004 - 20 Hydref 2014 gwnaed ef yn Arlywydd Indonesia.

Rhagflaenydd :
Megawati Sukarnoputri
Arlywyddion Indonesia
Susilo Bambang Yudhoyono
Olynydd :
Joko Widodo