Tref fach a phlwyf sifil ar arfordir de-ddwyrain sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, ydy Swanage.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dorset. Saif ar ben dwyreiniol Ynys Purbeck, tua 10 km i'r de o Poole a 40 km i'r dwyrain o Dorchester.

Swanage
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDorset (awdurdod unedol)
Gefeilldref/iRüdesheim am Rhein Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDorset
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.61°N 1.96°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04003483 Edit this on Wikidata
Cod OSSZ0278 Edit this on Wikidata
Cod postBH19 Edit this on Wikidata
Map

Roedd poblogaeth o 10,124 yn y dref yn 2001. Mae Caerdydd 129 km i ffwrdd o Swanage ac mae Llundain yn 165 km. Y ddinas agosaf ydy Southampton sy'n 53.1 km i ffwrdd.

Porthladd a phentref pysgota bychain oedd Swanage i gychwyn, a and fishing village ffynnodd yn oes Fictoria, pan ddaeth yn borthladd chwarelu pwysig, ac yn ddiweddarach yn gyrchfan twristiaeth glan-môr ar gyfer y cyfoethog. Twristiaeth yw prif diwydiant Swanage hyd heddiw, a miloedd o ymwelwyr yn dod i'r dref yn ystod yr haf, yn cael eu denu gan draethau da ac atyniadau eraill.

Yn ystod ei hanes, mae'r bae wedi cael amryw o enwau, Swanawic, Swanwich, Sandwich, a dim ond yn ddiweddar daeth i'w adnabod fel Swanage.

Lleolir y dref ar ben dwyreiniol yr Arfordir Jwrasig, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.

Gefeilldrefi golygu

Llenyddiaeth a'r cyfryngau golygu

O Swanage ddaw cymeriad Basil Fawlty, a chwaraewyd gan John Cleese, yng nghomedi sefyllfa Fawlty Towers in the sitcom .

Ffilmwyd fideo Carry You Home gan James Blunt yn Swanage.

Seilwyd tref ffuglenol Knollsea ar Swanage yn nofelau Thomas Hardy. Disgrifir hi yn “The Hand of Ethelberta” fel “…a seaside village lying snug within two headlands as between a finger and thumb”.

Lleolir cusan cyntaf Margaret a Mr. Wilcox yno pan maent yn mynd am dro yn nofel Howards End, gan E.M. Forster.

Mae “The Lady Margaret”, yn un o straeon fer Keith Roberts, yn ei nofel Pavane, ynddi mae Jesse Strange yn cwfwr hen ffrind ysgol yn Swanage.

Ganwyd a magwyd yr artist a'r llenor rhyngwladol, Philip Sugden, yn Swanage. Mae'n adnabyddadwy am ei luniau a'i baentiadau o India a Tibet, a'i lyfrau, "Visions From The Fields of Merit" a "White Lotus."

Llyfryddiaeth golygu

  • Lewer, David & Smale, Dennis. (2004) Swanage Past, Chichester, Phillimore & Co Ltd
  • Cooper, Ilay. (2004). Purbeck Revealed, Bath, James Pembroke Publishing.
  • Hardy, Thomas. (1876) The Hand of Ethelberta, The Literature Network. Ar gael ar: [1].
  • Ward Lock’s Swanage and South Dorset: Illustrated Guide Books, (12fed argraffiad). Llundain: Ward, Locke and Co. Ltd.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 26 Ebrill 2020

Dolenni allanol golygu