Swastica

croes gyda'r breichiau wedi eu plygu ar ongl sgwâr. Symbol mewn Bwdiaeth, Hindwaeth a Natsiaeth

Mae'r swastika (hefyd swastica yn yr orgraff Gymraeg;[1] Almaeneg: Hakenkreuz) yn groes y mae ei breichiau wedi'u plygu ar onglau sgwâr, naill ai i'r dde neu i'r chwith.

Mae gan y swastica sawl arddull ac ystyr ar draws sawl diwylliant ac oes
Swastica Hindŵaeth

Enwau golygu

Fe'i gelwir hefyd yn Croes Gama, oherwydd mae pob braich yn debyg i'r gamma - y llythyren Γ Roegaidd, a tetraskel sy'n golygu "pedair coes" mewn Groegeg.

Daw’r gair swastica o'r iaith Sansgrit, yn benodol o’r gair Suasti sy'n cyfuno dau air:

  • Su (सु) - da, good, ffyniannus, ffafriol
  • Asti (अस्ति) - i fod mei y mae

gellir ei gyfieithu i olygu ‘llesiant’ a byddai cyfieithiad llythrennol y gair ‘swastika’ yn "dargludol i les".

Crefydd golygu

Roedd y Bwdhaeth bron bob amser yn defnyddio'r ffurf chwith. Ar ddechrau'r 20g, mabwysiadodd y Natsïaid Almaenig y swastika fel symbol, ac, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd yn y Gorllewin, fe'i cysylltir yn bennaf fel symbol ffasgaidd yn unig, heb wybod ei ddefnydd cyn Natsïaeth.

Presenoldeb mewn crefydd a mytholeg golygu

 
Crochenwaith Celtiberian o'r 2g neu'r 1g CC a ddarganfuwyd yn Numancia, wedi'i addurno â swastika Hindŵaeth

Mae'r swastika i'w gael ym mhobman mewn temlau y crefydd Hindŵaidd. Mewn Hindŵaeth gellir llunio'r swastika i'r dde neu i'r chwith. Mae'r ddwy ffurf yn cynrychioli dwy ffurf Brahma (cysyniad amhersonol Duw). Mae clocwedd yn cynrychioli esblygiad y bydysawd, ac i'r cyfeiriad arall mae'n cynrychioli ei anwiredd.

Bwdhaeth golygu

 
Delwedd o swastika mewn teml, Corea

Mewn Bwdhaeth mae gan y swastika safle llorweddol. Mae'n nod mewn ysgrifennu Tsieineaidd (卍). Oherwydd eu cysylltiad â Natsïaeth, maen nhw i gyd ar y ffurf sy'n troi tua'r chwith ers canol yr ugeinfed ganrif. Gellir dod o hyd i'r symbol hwn fel arfer ar becynnu bwyd Tsieineaidd (sy'n golygu bod bwyd yn llysieuol a gall Bwdistiaid ei fwyta), neu ar ddillad plant ifanc (i'w hamddiffyn rhag ysbrydion drwg).

Defnydd amrywiol golygu

 
Rowndel Llu Awyr y Ffindir, rhwng 1918 a 1944

Roedd gan yr awdur Prydeinig, Rudyard Kipling, a ddylanwadwyd yn drwm gan ddiwylliant Indiaidd, swastika ar glawr ei holl lyfrau nes i Natsïaeth ymddangos. Roedd gan y Boy Scouts hefyd fel symbol, o dan law Robert Baden-Powell, a oedd o bosibl yn cael ei ddylanwadu gan ddiwylliant Indiaidd. Roedd yn bresennol yn y fedal deilyngdod, nes ym 1935 y penderfynwyd ei newid.

Mae'r swastika yn ymddangos fel symbol milwrol mewn byddinoedd fel y Latfia a'r Ffindir ar ddechrau'r 20g er gyda chyflwyniadau gwahanol. Nid oedd a wnelo dim o gwbl â Natsïaeth a chyd-ddigwyddiad yw'r defnydd. Roedd y swastica dal i gael ei harddel mewn rhai o arwyddluniau llu awyr y Ffindir hyd at Mehefin 2020 pan ollyngwyd y symbol yn ddiseremoni.[2]

Gelwir tref yn Ontario, Canada yn Swastika. Crëwyd y pentref ym 1906 trwy ddarganfod mwyngloddiau aur. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llywodraeth Canada eisiau newid ei henw, ond roedd y boblogaeth yn ei wrthwynebu. Defnyddiodd y cwmni ryngwladol ASEA o Sweden swastika fel ei logo tan 1933, pan benderfynodd ei newid er mwyn peidio â chael ei uniaethu â Natsïaeth.

Natsïaid yr Almaen golygu

 
Baner y Natsïaid

Fel y dywedwyd eisoes, ar gyfer Gorllewinwyr, mae'r swastika yn gysylltiedig â Natsïaeth yn benodol a ffasgaeth yn gyffredinol. Mabwysiadodd damcaniaethwyr Natsïaidd symbol y swastika trwy nodi bod llinach y hil Ariaidd yn dod o'r India a bod y swastika yn deillio o'i draddodiadau Vedaidd. Defnyddiodd y Natsïaid y swastika du yn bennaf y tu mewn i gylch gwyn ar gefndir coch. Gwaherddir defnyddio'r swastika fel symbol gwleidyddol yn yr Almaen.[3] Y lliwiau coch, du a gwyn oedd lliwiau baner yr Almaen Ymodraethol, annemocrataidd o dan y Kaizer.

Cysylltiad gyadg Hiliaeth golygu

Yn sgil y Natsïaid yn mabwysiadu'r swastica fe ddaeth yn symbol syml i ddarlunio hiliaeth - yn enwedig gwrth-semitiaeth - a chefnogaeth i drefn filwriaethus ac awdurdodiaethus o lywodraethu. Caiff beddau Iddewon eu difrodi gan y swastica fel arwydd amlwg o wrth-semitiaeth.[4] a caiff y symbol hefyd eu baentio ar eiddo Iddewon.[5]

Swastica yng Nghymru golygu

Defnyddiwyd y swastica fel arwydd o hiliaeth yng Nghymru hefyd. Yn Mehefin 2020 paentiwyd swastica ar ddrws blaen y Red Lion, safle busnes teulu'r Ogunbanwo,[6] teulu du ym mhentref Pen-y-groes, Gwynedd.[7] Digwyddodd y drosedd yn ystod mis pan cafwyd llawer o drafod ar hawliau a safle pobl ddu mewn cymdeithas yn dilyn lladd George Floyd, dyn du ar 25 Mai ac yna lledaeniad protestiadau Black Lives Matter ar draws y byd, gan gynnwys Cymru.

Paentiwyd swastica ar gofeb i filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf o fewn Castell y Fflint ym mis Mawrth 2019. Cafwyd swasticas eu paentio hefyd ar gofebau rhyfel Cei Conna a Shotton.[8]

Ym mis Awst 2019 arestiwyd dyn yng Nghastell Nedd am arddangos baner Natsïaidd yr Almaen, sy'n cynnwys y swastica, y tu allan i'w dŷ. Roedd y faner wedi ei hoelio i fur y tŷ ac yn glir i bawb ei weld.[9]

Ar fore 30 Mehefin 2020 darganfuwyd swastica wedi ei phaentio ar fur enwog 'Cofiwch Dryweryn' ger pentref Llanrhystud, Ceredigion. Wrth ei ymyl hefyd roedd croes Geltaidd sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan gefnogwyr cenedlaetholdeb gwyn a phobl hiliol. O fewn oriau roedd y swastica a'r symbol asgell dde arall wedi ei phaentio drosodd i arddangos 'Cofiwch Dryweryn' yn unig.[10]

Swastica fel Ffasiwn golygu

Daeth y swastica hefyd yn symbol hawdd i'w ddefnyddio gan gwmnïau ffasiwn neu grwpiau eraill oedd yn ceisio creu sioc neu denu sylw[11] a gwisgwyd weithiau'n unai ddifeddwl neu er mwyn denu sylw.[12]

Gwisgai rhai cantorion pync yr 1970au ac 1980au y swastica fel rhan o'i gwisg llwyfan, fel rhan o'i bwriad i frawychu ac ymbellhau o gymdeithas 'barchus' yr oeddynt yn gwrthryfela yn ei erbyn.[13]

Oriel golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu