Dyffryn a dosbarth gweinyddol yw Swat a leolir yn Khyber Pakhtunkhwa (NFWP gynt), Pacistan, i'r dwyrain o'r Hindu Kush ac i'r de o'r Karakoram. Gorwedd gwaelod y dyffryn tua 60 km/100 milltir i'r gogledd-orllewin o Islamabad, prifddinas Pacistan. Tref Saidu Sharif yw'r ganolfan weinyddol, prifddinas y dosbarth, ond Mingora yw'r dref fwyaf. Roedd Swat yn dywysogaeth yn NWFP hyd 1969. Pashto yw prif iaith y mwyafrif o'r boblogaeth o 1,257,602.

Swat
Mathdistrict of Pakistan Edit this on Wikidata
PrifddinasSaidu Sharif Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 Hydref 1969 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMalakand Division Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd5,337 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBuner District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.7828°N 72.3619°E, 35.24°N 72.5°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholDistrict Council of Swat Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chairman of District Council Swat Edit this on Wikidata
Map
Map o ogledd Pacistan sy'n dangos lleoliad Swat (melyn)

Mae Swat yn rhan o ranbarth hanesyddol Malakand. Mae'n ardal o fynyddoedd uchel, gweirgloddiau gwyrdd, coedwigoedd a llynnoedd gydag Afon Swat yn rhedeg trwyddi; mewn canlyniad bu'n gyrchfan boblogaidd gan dwristiaid, o Bacistan a thramor, tan yn ddiweddar. Ond yn Rhagfyr 2008 cipwyd rhan helaeth Swat gan wrthryfelwyr y Taliban ym Mhacistan. Mae llawer o'r ardal yn cael ei rheoli y gwrthryfelwr Islamig Maulana Fazlullah a'i grŵp y Tehreek-e-Nafaz-e-Shariat-e-Mohammadi, sydd wedi cymryd camrau llym i gyflwyno cyfraith Sharia. Cafwyd cadoediad tri mis ar ddechrau 2009. Ar ddiwedd mis Ebrill 2009, ar ôl dod dan bwysau gan yr Unol Daleithiau, anfonodd llywodraeth Pacistan y fyddin i ymladd y Taliban yn Swat.

Dwyshaodd yr ymladd ar ddechrau mis Mai 2009. Adroddwyd fod miloedd o bobl yn ceisio ffoi o'r dyffryn wrth i Fyddin Pacistan ymosod o'r awyr ac ar dir ar rai o gadarnleoedd y Taliban. Ofnwyd bod "rhyfel agored" ar fin torri allan ac y byddai rhai cannoedd o filoedd yn gorfod ffoi.[1] Mae'r ymladd agored yma rhwng y fyddin a'r Taliban, yn Swat a rhannau eraill o'r NWFP, yn fygythiad pellach i sefydlogrwydd Pacistan.

Afon Swat yn llifo trwy'r dyffryn

Cyfeiriadau golygu

  1. ""Pakistan hits Taliban amid Swat valley exodus" PakistanNews.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-18. Cyrchwyd 2009-05-07.

Gweler hefyd golygu