Iaith arunig a siaredid ym Mesopotamia yn oes hynafol Swmer (3ydd mileniwm CC) yw Swmereg[1] (𒅴𒂠 EME.G̃IR15, sef "iaith frodorol"). Dyma'r iaith ysgrifenedig hynaf yn y byd. Tua 2000 CC, ildiodd Swmereg ei safle fel iaith lafar i Acadeg, clwstwr o dafodieithoedd Semitaidd a rennir yn Asyrieg yn y gogledd a Babiloneg yn y de. Parhaodd y Mesopotamiaid i ysgrifennu yn Swmereg, drwy gyfrwng ysgrifen gynffurf, nes diwedd oes yr Acadeg bron, adeg gwawr y cyfnod Cristnogol.[2]

Swmereg
Enghraifft o'r canlynoliaith farw, iaith yr henfyd Edit this on Wikidata
Mathhuman language Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 0
  • cod ISO 639-2sux Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3sux Edit this on Wikidata
    GwladwriaethSwmer, Ymerodraeth Akkadian Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuYsgrifen gynffurf Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Testun Swmereg ar lechen glai.

    Llenyddiaeth golygu

    Swmereg yw iaith wreiddiol Epig Gilgamesh, un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi mewn unrhyw iaith.

    Cyfeiriadau golygu

    1.  Swmereg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.
    2. (Saesneg) Sumerian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.