Sylvia Anderson

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Camberwell yn 1927

Actores, awdures a chynhyrchydd ffilm a theledu, Seisnig oedd Sylvia Anderson (née Thamm, 27 Mawrth 192715 Mawrth 2016) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Gerry Anderson, ei gŵr rhwng 1960 ac 1981.[1]

Sylvia Anderson
GanwydSylvia Thamm Edit this on Wikidata
25 Mawrth 1927 Edit this on Wikidata
Camberwell Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Bray Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y DU Y DU
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, nofelydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, actor llais, cynhyrchydd teledu, asiant talent, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
PriodGerry Anderson Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sylviaanderson.org.uk Edit this on Wikidata

Yn ogystal â chyd-greu a chyd-ysgrifennu eu cyfresi teledu yn ystod y 1960au a'r 1970au, prif gyfraniad Anderson oedd datblygu'r cymeriadau a dylunio'r gwisgoedd.[2] Byddai'n cyfarwyddo'r sesiynau recordio llais yn rheolaidd, ac yn lleisio rhai cymeriadau benywaidd a phlant, yn arbennig y cymeriad Lady Penelope yn Thunderbirds. Fe ysgarodd y cwpl ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddynt wahanu am 5 mlynedd.[1]

Bu farw Anderson ar 15 Mawrth 2016, yn 88 mlwydd oed, yn dilyn salwch byr.[3]

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Anderson yn Ne Llundain, Lloegr ar 27 Mawrth 1927. Roedd ei thad yn focsiwr penigamp a'i mam yn wniadwraig.[4]

Ar ôl graddio o Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain[2] gyda gradd mewn economeg a chymdeithaseg, daeth yn weithiwr cymdeithasol. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau i fyw gyda'i gŵr cyntaf, golffiwr Americanaidd.[1] Tra oedd yn America, gweithiodd fel newyddiadurwr.[5]

Gyrfa golygu

Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig gyda merch, ymunodd Anderson a'r cwmni newydd ond byrhoedlog, Polytechnic Films fel ysgrifenyddes yn 1957.[1][2] Yno, cyfarfu Gerry Anderson, golygydd a chyfarwyddwr.[1] Yr un flwyddyn, yn dilyn cwymp Polytechnic, ffurfiodd Anderson a Arthur Provis gwmni AP Films, ac fe ymunodd â nhw ar fwrdd cyfarwyddwr y cwmni newydd, ynghyd â'i chydweithwyr John Read a Reg Hill.[1][2] Priododd y cwpl yn 1960, ac ar ôl hynny, cafodd ddyletswyddau ehangach ar waith cynhyrchu.[1][2]

Fe ddaeth partneriaeth greadigol yr Andersons i ben pan chwalodd eu priodas yn ystod cynhyrchu cyfres gyntaf Space: 1999 yn 1975.[1] Cyhoeddodd Gerry ei fwriad i wahanu ar noswaith y parti cloi,[6][7] ac yn dilyn hynny fe wnaeth Sylvia dorri ei chysylltiad gyda'r cwmni, a oedd erbyn hyn wedi ei ailenwi gyda'r enw Group Three. Yn 1983, cyhoeddodd nofel gyda'r teitl Love and Hisses[1] ac yn 1994, fe ail-gydiodd yn ei rhan yn lleisio Lady Penelope ar gyfer pennod o Absolutely Fabulous. Bu'n gweithio fel chwilotwr talent yn Llundain ar gyfer HBO am 30 mlynedd.[1][2]

Cyhoeddwyd ei hunangofiant Yes M'Lady gyntaf yn 1991;[6] a fe'i hail-gyhoeddwyd fel My FAB Years yn 2007[8] gyda deunydd newydd i gynnwys hanes diweddaraf, fel ei gwaith yn ymgynghorydd cynhyrchu ar yr addasiad ffilm o Thunderbirds yn 2004. Rhyddhawyd My FAB Years ar ffurf CD yn 2010, wedi ei leisio gan Anderson.[9][10]

Yn 2013, gweithiodd Anderson gyda'i merch Dee, cantores jazz, ar syniad newydd am raglen deledu[2] o'r enw "The Last Station". Fe wnaethon nhw sefydlu ymgyrch godi arian torfol ar Indiegogo er mwyn i ddilynwyr gyfrannu a bod yn rhan o'r gyfres.

Roedd Anderson yn adnabyddus hefyd am ei gwaith elusennol, yn enwedig yn cefnogi Gofal Cancr y Fron[5] a Barnardo's.[11]

Yn 2015, teithiodd Anderson i'r Eidal i dderbyn Gwobr Pulcinella i gydnabod ei gyrfa mewn cynhyrchu teledu.[12][13]

Bywyd personol golygu

Cafodd ddau blentyn gyda Gerry Anderson: merch. Dee Anderson a mab, Gerry Anderson Jr.[4]

Teledu golygu

AP Films golygu

Century 21 golygu

Group Three golygu

ITV Studios and Pukeko Pictures golygu

Ffilmyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 "Sylvia Anderson Biography". Space1999.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Rhagfyr 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Griffin, Stephen (26 Mai 2013). "Sylvia Anderson: "The press loved Penelope and that made Gerry jealous"". Daily Express. Cyrchwyd 14 Awst 2013.
  3. Sylvia Anderson obituary: co-creator of Thunderbirds (en) , guardian.co.uk, 16 Mawrth 2016.
  4. 4.0 4.1 Association, Press (2016-03-16). "Thunderbirds' Sylvia Anderson, voice of Lady Penelope, dies aged 88". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2016-03-16.
  5. 5.0 5.1 "Sylvia Anderson, voice of Thunderbirds' Lady Penelope, dies - BBC News". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-03-16.
  6. 6.0 6.1 Sylvia Anderson (1991). Yes M'Lady. Smith Gryphon. ISBN 1-85685-011-0.
  7. Simon Archer, Stan Nicholls (1996). Gerry Anderson: the Authorised Biography. Legend Books. t. 171. ISBN 0-09-978141-7.
  8. Sylvia Anderson (2007). My FAB Years. Hermes Press. ISBN 1-932563-91-1.
  9. "My FAB Years – the Audiobook". SylviaAnderson.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2011-02-24.
  10. "My FAB Years – Abridged – Audible Audio Edition". Amazon.com. Cyrchwyd 2011-02-24.
  11. "Sylvia Anderson Leads Safety Campaign for Families with Jackloc - GloTIME". GloTIME (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-02. Cyrchwyd 2016-03-16.
  12. ""La Chouette & cie" récompensée à Venise — News — Studio Hari". www.studiohari.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-21. Cyrchwyd 2016-03-16.
  13. "Sylvia Anderson presented with the Special Pulcinella Award". Sylvia Anderson (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-18. Cyrchwyd 2016-03-16.

Dolenni allanol golygu