Tân Mawr Llundain

Roedd Tân Mawr Llundain yn dân mawr a ledodd drwy ganol dinas Llundain o ddydd Sul, 2 Medi, tan ddydd Mercher, 5 Medi 1666.[1] Dinistriodd y tân ddinas ganoloesol Llundain - y tu fewn i Furiau Rhufeinig y Ddinas. Bu perygl i ardal aristocraidd San Steffan, Palas Whitehall Siarl II, a'r mwyafrif o slymiau'r ddinas ond ni ledodd y tân mor bell a hynny.[2] Dinistriodd 13,200 o dai, 87 o eglwysi plwyfol, Eglwys Gadeiriol Sant Paul a'r rhan fwyaf o adeiladau o fewn awdurdod y Ddinas. Amcangyfrifir y dinistriwyd cartrefi 70,000 o drigolion y ddinas.[3]

Tân Mawr Llundain
Enghraifft o'r canlynolcity fire Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
Dechreuwyd2 Medi 1666 Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Medi 1666 Edit this on Wikidata
LleoliadLlundain Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad o Dân Mawr Llundain o 1666 gan arlunydd anhysbys, sy'n darlunio'r tân fel y byddai wedi edrych ar nos Fawrth, y 4ydd o Fedi o gwch yn ardal Tower Wharf. Gwelir Twr Llundain ar yr ochr dde a Phont Llundain ar yr ochr chwith, gydag Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn y pellter, wedi'i amgylchynnu gan y fflamau talaf.

Nid yw union nifer y marwolaethau yn wybyddus, ond yn draddodiadol ystyrir y nifer i fod yn gymharol fychan, a chwech marwolaeth yn unig a gofnodwyd. Yn ddiweddar, heriwyd y gred hon ar y sail na chofnodwyd marwolaethau'r tlodion a'r dosbarth canol, ac y gallai gwres y tân fod wedi llosgi nifer o gyrff yn ulw, gan adael ychydig iawn o dystiolaeth o fodolaeth y dioddefwyr.

Dechreuodd y tân mawr ym mhopty Thomas Farriner (neu Farynor) ar Pudding Lane ychydig wedi canol nos ar ddydd Sul, 2 Medi, a lledodd yn gyflym tuag at orllewin Dinas Llundain. Ni ddefnyddiwyd un o brif dechnegau diffodd tân y cyfnod, sef creu toriadau tân drwy ddymchwel adeiladau, yn sgîl diffyg penderfyniad Arglwydd Faer Llundain, Syr Thomas Bloodworth. Erbyn i'r cyfarwyddiadau i ddymchwel adeiladau gael eu rhoi ar y nos Sul, roedd y gwynt eisoes wedi chwythu fflamau tân y popty gan greu coelcerth anferthol. Erbyn y dydd Llun, roedd y tân wedi lledu i galon y Ddinas. Gwelwyd anhrefn ar y strydoedd wrth i suon fynd ar led am estronwyr dieithr yn cynnau tanau bwriadol. Ar ddydd Mawrth, lledodd y tân dros y rhan fwyaf o'r ddinas, gan ddinistrio Eglwys Gadeiriol Sant Paul a chan neidio ar draws Afon Fleet gan fygwth llys Siarl II yn Whitehall. Priodolir y ffaith i'r tân gael ei ddiffodd gan ddau ffactor: peidiodd y gwynt cryf o'r dwyrain a defnyddiodd gwarchodlu Tŵr Llundain bowdwr gwn i greu toriadau-tân effeithiol o atal y fflamau rhag lledu ymhellach tua'r dwyrain.

Achosodd y drychineb broblemau cymdeithasol ac economaidd difrifol; gwelwyd cryn dipyn o basio'r bai am gyfnod hir ar ôl y digwyddiad. Anogodd Siarl II y bobl i adael Llundain a setlo rhyw le arall, am ei fod yn ofni gwrthryfel yn Llundain gan y bobl a oedd wedi colli popeth. Er gwaethaf nifer o gynigion radical, ail-adeiladwyd Llundain yn fras ar yr un cynllun stryd ag a welwyd cyn y drychineb.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhoddir yr holl ddyddiadau yn ôl Calendr Iŵl. Noder pan yn cofnodi hanes y Derynas Unedig, yn gyffredinol, defnyddir y dyddiadau a ddefnyddiwyd adeg y digwyddiad ei hun. Mae blynyddoedd unrhyw ddyddiadau rhwng y 1 Ionawr a 25 Mawrth wedi eu haddasu i ddechrau ar 1 Ionawr, yn unol a'r Drefn Newydd.
  2. Porter, 69–80.
  3. Tinniswood, 4, 101.

Dolenni allanol golygu