Tîm pêl-droed cenedlaethol Cosofo

tîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cosofo


Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Cosofo (Albaneg: Përfaqësuesja e futbollit të Kosovës, Serbeg: Фудбалска репрезентација Косова, trawslythreniad: Fudbalska reprezentacija Kosova) yn cynrychioli gwladwriaeth Cosofo. Fe'i rheoleiddir gan Ffederasiwn Bêl-droed Cosofo ac maent yn aelod o UEFA a FIFA ers Mai 2015.[2]

Kosovo
Llysenw(au) Dardanët (Dardanians)
Conffederasiwn UEFA (Ewrop)
Hyfforddwr Bernard Challandes
Is-hyfforddwr Muharrem Sahiti
Genc Hoxha
Capten Samir Ujkani
Mwyaf o Gapiau Samir Ujkani (17)
Prif sgoriwr Albert Bunjaku
Elba Rashani (3)
Cod FIFA KVX[1]
Safle FIFA 176 increase 1 (15 Mawrth 2018)
Safle FIFA uchaf 164 (Hydref 2016, Mawrth 2017)
Safle FIFA isaf 190 (Gorffennaf–Awst 2016)
Safle Elo 117 steady (20 Mawrth 2018)
Safle Elo uchaf 102 (14 Chwefror 1993)
Safle Elo isaf 122 (Mehefin-Gorffennaf 2014)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
3ydd Set
Gêm ryngwladol gynaf
As FIFA member
 Kosovo 2–0 Ynysoedd Ffaro 
(Frankfurt, Germany; 3 Mehefin 2016)
Permitted by FIFA
 Kosofo 0–0 Haiti 
(Mitrovica, Kosovo; 5 Mawrth 2014)
Unofficial
 Albania 3–1 Kosovo Albania
(Tirana, Albania; 14 Chwefror 1993)
Y fuddugoliaeth fwyaf
Nodyn:Country data UN Kosovo 7–1 Nodyn:Country data MON
(Cap d'Ail, France; 22 April 2006)
Colled fwyaf
 Kosovo 0–6 Croasia 
(Shkodër, Albania; 6 Hydref 2016)

Hanes golygu

Cyn cyfnod annibyniaeth Cosofo roedd sgwadiau Tîm pêl-droed cenedlaethol Iwgoslafia, yna tîm gwladwriaeth Serbia a Montenegro, yn cynnwys chwaraewyr yn ei carfan. Chwaraewyr megis Fadil Vokrri a Stevan Stojanović. Roedd tri chwaraewr o Cosofo (Milutin Šoškić, Fahrudin Jusufi a Vladimir Durković) yn rhan o dîm Iwgoslafia a enillodd y fedal aur yng Gemau Olympaidd 1960 a'r fedal arian ym Mhencampwriaeth Ewrop yn yr un flwyddyn.

Sefydlu'r Tîm Cenedlaethol golygu

Fe sefydlwyd tîm cenedlaethol answyddogol Cosofo yn dilyn cwymp Iwgoslafia gan ar ddechrau'r 1990au. Roedd y rhan fwyaf o'r gemau yma yn erbyn timau clwb, er i sawl gêm hefyd gael eu chwarae yn erbyn timau cenedlaethol eraill. Chwaraewyd saith gêm answyddogol rhwng 1993 a 2010. Cynrychiolwyd Cosofo gan chwaraewyr o dras ethnig Albanaidd a oedd yn gymwys i chwarae i dimau cenedlaethol eraill (e.e. Albania, neu gwledydd megis y Swistir lle magwyd hwy ar wasgar).

Aelodaeth UEFA a FIFA golygu

Ymgeisiodd Gymdeithas Bêl-droed Cosofo am gydnabyddiaeth swyddogol gan FIFA ar 6 Mai 2008 yn dilyn datganiad annibyniaeth y wlad ond fe'i gwrthodwyd.

Ar 21 Mai 2012, penderfynodd Pwyllgor Gweithredol FIFA (y corff pêl-droed byd-eang) ganiatáu i dîm pêl-droed Cosofo gynnal gemau cyfeillgar yn erbyn timau cenedlaethol eraill. Cyfarfu'r penderfyniad hwn â gwrthwynebiad ffyrnig gan Gymdeithas Pêl-droed Serbia, ond hefyd UEFA (corff pêl-droed Ewrop), gan nad oeddynt wedi ymgynghori â Serbia. Ar 17 Gorffennaf 2012, penderfynodd Pwyllgor Gweithredol FIFA ohirio'r ddadl ar sut i weithredu'r penderfyniad rhwng Mai a Medi 2012. Ni wnaed unrhyw benderfyniad yn y cyfamser, ond ym mis Rhagfyr 2012 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith y dylid caniatáu clybiau Cosofo a phob detholiad, heblaw am uwch dîm y dynion, i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn aelodau eraill FIFA.

Ar 13 Ionawr 2014, caniataodd Pwyllgor Brys FIFA i glybiau a thimau'r ffederasiwn Cosofo gystadlu mewn gemau cyfeillgar rhyngwladol yn erbyn cymdeithasau oedd yn aelodau o FIFA. [8] Gwaharddwyd arddel symbolau cenedlaethol megis chwifio'r faner genedlaethol, canu'r anthem neu wisgo crys gyda bathodyn genedlaethol.[3][4]. Cynhaliwyd y cyntaf o'r gemau cyfeillgar (dan ganiatâd FIFA) ar 5 Fawrth 2014, sef gêm yn erbyn Haiti yn ninas Mitrovica. Chwaraewyd y gêm o flaen o tua 17,000 o wylwyr yn Stadiwm Adem Jashari a'r sgôr terfynol, siomedig oedd, 0: 0.

Ar 3 Mai 2016, mewn cyfarfod yn Budapest penderfynodd UEFA i dderbyn Cosofo yn swyddogol fel y 55fed aelod, gyda 28 yn pleidleisio o blaid a 24 yn erbyn.[5]. Daeth Cosofo felly yn 55ed aelod UEFA.

Derbyniwyd Cosofo fel 210fed aelod FIFA yn fuan wedyn mewn cyfarfod ym Mecsico ar 13 Mai 2016 gan 141 pleidlais o blaid a 23 yn erbyn.[6]. Yn yr un cyfarfod derbyniwyd Gibraltar fel aelod rhif 221.

Gemau Swyddogol Cychwynnol golygu

Roedd y gêm brawf swyddogol ryngwladol gyntaf fel aelod o FIFA ar 3 Mehefin 2016 yn y Volksbank Stadion yn Frankfurt yn yr Almaen. Roedd y gêm yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Ynysoedd Faroe. Cosofo a enillodd y gêm hanesyddol yma, 2-0. Ar 14 Gorffennaf 2016, rhestrwyd y tîm am y tro cyntaf yn Safle detholion y Byd, FIFA. Roed Cosofo wedi dringo i 190eg lle.

Bydd Kosovo nawr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ac Ewro.

Ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 bu'n rhaid i'r tîm chwarae ei gemau cartref yn Albania gan nad oedd stadiymau Cosofo yn bodloni safonau FIFA. Cymhwysodd Cosofo ar gyfer Cwpan y Byd 2018, gan ymuno â Grwp I. Timau eraill y Grŵp oedd: Tîm pêl-droed cenedlaethol Twrci, Tîm pêl-droed cenedlaethol y Ffindir, Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Wcráin, Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ, a Tîm pêl-droed cenedlaethol Croatia.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dryomin, Mark; Tabeira, Martin; Lozano, Carles; Jeffree, Iain (2 Mehefin 2016). "FIFA Country Codes". rsssf.com. RSSSF. Cyrchwyd 8 Mehefin 2016.
  2. Kosovo, Gibraltar join FIFA before 2018 World Cup qualifying Daily Mail
  3. "FIFA allows Kosovo to play friendly matches". Reuters UK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-16. Cyrchwyd 18 Mehefin 2016.
  4. "FIFA Emergency Committee confirms friendly matches involving clubs and representative teams of Kosovo". FIFA.com. 13 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2018-03-24.
  5. "Kosovo accepted as member of Uefa after Congress vote". theguardian.com. The Guardian. 3 Mai 2016. Cyrchwyd 3 Mai 2016.
  6. "Zyrtare: Kosova pranohet në FIFA, jemi të barabartë me të gjitha vendet e botës – Telegrafi". Telegrafi (yn Saesneg). 13 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Mehefin 2016.