Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcrain

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcrain (Wcreineg: Збірна України з футболу) yn cynrychioli Wcrain yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Wcrain (Wcreineg: Федерація Футболу України) (FFU), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFU yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Tîm pêl-droed cenedlaethol Wcrain
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Mathtîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1991 Edit this on Wikidata
PerchennogUkrainian Association of Football Edit this on Wikidata
GwladwriaethWcráin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hyd nes 1991 roedd chwaraewr o Wcrain yn cynrychioli yr Undeb Sofietaidd ond wedi i'r wlad sicrhau annibyniaeth, daeth Wcrain yn aelod o UEFA a FIFA ym 1992[1].

Llwyddodd Wcrain i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2006 yn ogystal â chynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012 ar y cyd gyda Gwlad Pwyl.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Uefa: Football Federation Ukraine". Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.