Tŵr 553.33 metr (1,815.39 troedfedd) o uchder yn ninas Toronto, Ontario, Canada yw'r Tŵr CN. Wrth iddo gael ei adeiladu yn 1975, daeth yn dŵr uchaf y byd gan orddiweddu Tŵr Ostankino. Ar Fedi 12, 2007, ar ôl dal y record am 32 o flynyddoedd, cymerwyd mantell y Tŵr CN fel strwythur unigol uchaf y byd gan y Burj Dubai yn ninas Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae'n parhau i fod y y trydydd tŵr uchaf yn y bydm, a strwythur uchaf yr Amerig a hemisffêr y gorllewin ac yn eicon sy'n dominyddu awyrlinell Toronto, gan ddenu tua dwy filiwn o ymwelwyr yn flynyddol.

Y Tŵr CN yn Toronto o Lyn Ontario

Mae'r CN yn yr enw yn cyfeirio at y cwmni rheilffordd Canadian National, ond yn answyddogol mae'n cael ei alw weithiau yn Canadian National Tower ers i'r cwmni rheilffordd gael ei breifateiddio yn 1996.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato