Tŷ Opera Brenhinol

Mae'r Tŷ Opera Brenhinol yn dŷ opera a lleoliad celfyddydau perfformio mawr yn Covent Garden, canol Llundain. Cyfeirir yn aml at yr adeilad mawr fel "Covent Garden" yn unig, ar ôl defnydd blaenorol y safle cyn adeiladu'r Tŷ Opera ym 1732. Mae'n Gartref i'r Opera Brenhinol, Y Bale Brenhinol a Cherddorfa'r Tŷ Opera Brenhinol. Yr enw gwreiddiol oedd The Theatre Royal. Fe'i gwasanaethodd yn bennaf fel theatr adloniant ysgafn am ganrif gyntaf ei hanes. Ym 1734, cyflwynwyd y bale cyntaf yno. Blwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd tymor cyntaf operâu Handel. Ysgrifennwyd llawer o'i operâu a'i oratorïau yn benodol ar gyfer Covent Garden ac yno cawsant eu perfformio gyntaf 

Tŷ Opera Brenhinol
Mathtŷ opera, theatr, canolfan celfyddydau perfformio Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster, Llundain
Agoriad swyddogol15 Mai 1858 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1732 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCovent Garden Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5131°N 0.1225°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3036281019 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Yr adeilad presennol yw'r drydedd theatr ar y safle yn dilyn tanau trychinebus ym 1808 a 1856. Mae'r ffasâd, y cyntedd a'r awditoriwm yn dyddio o 1858, ond bron pob elfen arall o'r safle yn dyddio o ailadeiladu helaeth yn y 1990au. Mae'r prif awditoriwm yn eistedd 2,256 o bobl, gan ei gwneud y drydydd mwyaf yn Llundain, ac mae'n cynnwys pedwar haen o flychau a balconïau a'r oriel amffitheatr. Mae'r prosceniwm yn 12.20 m o led a 14.80 m o uchder. Mae'r prif awditoriwm yn adeilad rhestredig Gradd I.[1]

Patent Davenant golygu

 
"Rich's Glory": (cartwn gan William Hogarth)

Mae hanes y Theatre Royal, Covent Garden yn dechrau gyda  llythyrau patent a ddyfarnwyd gan Siarl II i Syr William Davenant yn 1662, gan ganiatáu i Davenant rhedeg un o ddim ond dau gwmni theatr patent (Cwmni'r Dug) yn Llundain. Arhosodd y llythyrau patent ym meddiant etifeddion deiliaid y patent tan y 19eg ganrif; nid yw eu lleoliad ar hyn o bryd yn hysbys.[2]

Y theatr gyntaf golygu

 
Darluniad o'r theatr gyntaf cyn ei losgi ym 1808

Ym 1728, comisiynodd John Rich, actor-reolwr Cwmni'r Dug yn Theatre Lincoln's Inn Fields, yr opera baledi "The Beggar's Opera" gan John Gay. Rhoddodd llwyddiant y fenter hon y cyfalaf iddo i adeiladu Theatre Royal (a gynlluniwyd gan Edward Shepherd) ar safle hen Covent Garden, a datblygwyd rhan ohoni gan Inigo Jones yn y 1630au gyda phiazza ac eglwys. Yn ogystal, roedd Siarter Frenhinol wedi creu marchnad ffrwythau a llysiau yn yr ardal, marchnad gwnaeth goroesi yn y lleoliad hyd 1974. Wrth iddo agor ar 7 Rhagfyr 1732, cafodd Rich ei gludo gan ei actorion mewn gorymdaith fuddugoliaethus i'r theatr i'r cynhyrchiad agoriadol "The Way of the World"  gan William Congreve.

Yn ystod gan mlynedd gyntaf ei hanes, roedd y theatr yn bennaf yn chwaraedy, gyda'r Llythyrau Patent a roddwyd gan Charles II yn rhoi hawliau unigryw i Covent Garden a'r Theatre Royal, Drury Lane i gyflwyno drama lafar yn Llundain. Er gwaethaf y cyfnewidioldeb aml rhwng cwmnïau Covent Garden a Drury Lane, roedd y gystadleuaeth rhyngddynt yn ddwys, yn aml yn cyflwyno'r un dramâu ar yr un pryd. Cyflwynodd Rich Pantomeim i'r repertoire, gan berfformio ei hun (o dan yr enw llwyfan John Lun, fel Harlequin). Bu'r traddodiad o bantomeim tymhorol parhau yn y theatr fodern, hyd 1939.

Yn 1734, cyflwynodd Covent Garden ei bale cyntaf, Pygmalion. Penodwyd George Frideric Handel yn gyfarwyddwr cerddorol cwmni Lincoln's Inn Fields ym 1719, ond ni chyflwynwyd ei dymor cyntaf o operâu yn Covent Garden tan 1734. Ei opera gyntaf oedd Il pastor fido a ddilynwyd gan Ariodante (1735). Cyflwynodd perfformiadau cyntaf o Alcina ac o Atalanta y flwyddyn ganlynol. Cafwyd perfformiad brenhinol o'r Meseia ym 1743, a oedd yn llwyddiant ysgubol a bu'n sbardun i'r traddodiad o berfformio oratorio pob Grawys. O 1735 hyd ei farwolaeth ym 1759 rhoddodd Handel tymhorau rheolaidd yn Covent Garden, ac ysgrifennodd llawer o'i operâu a'i oratorios ar gyfer y theatr neu cawsant eu perfformiadau cyntaf yn Llundain yno. Gadawodd Handel ei organ i John Rich, ac fe'i gosodwyd mewn safle amlwg ar y llwyfan, ond roedd ymhlith nifer o eitemau gwerthfawr a gollwyd mewn tân a ddinistriodd y theatr ar 20 Medi 1808.

Ym 1792, ailadeiladodd y pensaer Henry Holland yr awditoriwm, o fewn cregyn presennol yr adeilad ond yn ddyfnach ac yn ehangach na'r hen awditoriwm, gan gynyddu cynhwysedd. 

Yr ail theatr golygu

 
Darlun dychanol, 1811, o'r "Tyllau Colomennod" Yn yr oriel uchaf yn 2ill theatr Covent Garden
 
Darluniad o awditoriwm yr ail theatr
 
Joseph Grimaldi, fel Clown

Dechreuodd yr ailadeiladu ym mis Rhagfyr 1808, ac agorodd yr ail Theatre Royal, Covent Garden (a gynlluniwyd gan Robert Smirke) ar 18 Medi 1809 gyda pherfformiad o Macbeth ac yna adloniant cerddorol o'r enw The Quaker. Cododd y rheolwr actor, John Philip Kemble, pris seddi i helpu i adennill y gost o ailadeiladu a chost rhent tir cynyddol a gyflwynwyd gan y tirfeddiannwr, Dug Bedford, ond roedd y symudiad mor amhoblogaidd bod cynulleidfaoedd yn amharu ar berfformiadau trwy guro ffyn, hisian, bwio a dawnsio. Bu i "Derfysgoedd yr Hen Bris" para am fwy na dau fis, a gorfodwyd y rheolwyr i gyd-fynd â gofynion y gynulleidfa.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd arlwy'r theatr yn amrywiol; perfformiwyd opera a bale ond ymysg perfformiadau o fathau eraill. Cyflogodd Kemble nifer o actau, gan gynnwys y perfformiwr o blentyn, Master Betty; gwnaeth y clown enwog Joseph Grimaldi ei enw yn Covent Garden. Ymddangosodd nifer o actorion enwog y dydd yn y theatr, gan gynnwys yr actorion trasiedi Sarah Siddons ac Eliza O'Neill, actorion Shakespeare William Charles Macready, Edmund Kean a'i fab Charles. Ar 25 Mawrth 1833 cwympodd Edmund Kean ar y llwyfan wrth chwarae Othello, a bu farw o'i anafiadau ddau fis yn ddiweddarach.[3]

 
Y theatr yn y 1820au

Ym 1817, disodlwyd yr hen ganhwyllau a lampau olew a oedd yn arfer goleuo llwyfan Covent Garden, gan ddefnyddio golau nwy yn eu lle.[4] Bu'r nwy yn welliant, ond ym 1837 defnyddiodd Macready golau calch yn y theatr am y tro cyntaf, yn ystod perfformiad pantomeim, Peeping Tom of Coventry. Roedd golau calch yn defnyddio bloc o galch brwd wedi'i gynhesu gan fflam ocsigen a hydrogen. Roedd hyn yn galluogi defnyddio sbotoleuadau i dynnu sylw at berfformwyr ar y llwyfan.[5]

Torrodd Deddf Theatrau 1843 monopoli'r theatrau patent ar yr hawl i berfformio drama. Ar y pryd roedd Theatr Ei Mawrhydi yn y Haymarket yn brif ganolfan ar gyfer bale ac opera, ond ar ôl anghydfod gyda'r rheolwr ym 1846, trosglwyddodd Michael Costa, yr arweinydd yn Ei Mawrhydi, ei deyrngarwch i Covent Garden, gan ddod â'r rhan fwyaf o'r cwmni gydag ef. Cafodd yr awditoriwm ei ail-lunio'n llwyr ar ôl tân 1846, yn ystod y tymhorau 1846-47, a berfformiodd y cwmni yn Theatr y Lyceum dros dro.[6] Ail agorodd y theatr ar 6 Ebrill 1847 o dan ei enw newydd "the Royal Italian Opera" gyda pherfformiad o opera Rossini "Semiramide".

Ym 1852, cyflwynodd Louis Antoine Jullien, yr arweinydd a chyfansoddwr ecsentrig Ffrengig o gerddoriaeth ysgafn, opera o'i gyfansoddiad ei hun, "Pietro il Grande". Rhoddwyd pum perfformiad o'r sioe 'ysblennydd', a oedd yn gynnwys ceffylau byw ar y llwyfan a cherddoriaeth uchel iawn. Roedd y beirniaid yn ystyried ei fod yn fethiant llwyr a chafodd Jullien ei difetha'n ariannol a bu iddo ffoi i'r America. Cyflwynodd Costa a'i olynwyr yr holl operâu a berfformiwyd yn y theatr yn yr iaith Eidaleg, hyd yn oed y rhai a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg, Almaeneg neu Saesneg, hyd 1892, pan gyflwynodd Gustav Mahler y perfformiad cyntaf o Der Ring des Nibelungen gan Wagner yn Covent Garden.[7][8] Wedi hynny gollyngwyd y gair "Italian" o enw'r tŷ opera yn ddistaw bach a daeth y Tŷ Opera Brenhinol i fod.[9]

Y drydedd theatr golygu

Ar 5 Mawrth 1856, dinistriwyd y theatr eto gan dân. Dechreuodd y gwaith ar y drydedd theatr, a gynlluniwyd gan Edward Middleton Barry, ym 1857 ac adeiladwyd yr adeilad newydd, sy'n dal i fod yn niwclews y theatr bresennol, gan gwmni Lucas Brothers[10] Fe agorodd ar 15 Mai 1858 gyda pherfformiad o "Les Huguenots" gan Giacomo Meyerbeer.

Fe wnaeth cwmni Opera Brenhinol Lloegr dan reolaeth Louisa Pyne a William Harrison wneud eu perfformiad olaf yn Theatre Royal, Drury Lane ar 11 Rhagfyr 1858 cyn symud i'r Covent Garden ar 20 Rhagfyr 1858 gyda pherfformiad o Satanella Michael Balfe. Parhaodd y cwmni yn y theatr hyd 1864. [11]

Dechreuwyd i adnabod y theatr fel Y Tŷ Opera Brenhinol o 1892, a chynyddwyd nifer y perfformiadau yn Ffrangeg ac Almaeneg. Cyflwynwyd tymhorau opera a bale yn y gaeaf a'r haf. Defnyddiwyd yr adeilad hefyd ar gyfer pantomeim, datganiadau a chyfarfodydd gwleidyddol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y Weinyddiaeth Gwaith yn defnyddio'r Tŷ Opera fel storfa dodrefn.

O 1934 i 1936, roedd Geoffrey Toye yn rheolwr gyfarwyddwr, gan weithio ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Artistig, Syr Thomas Beecham. Er gwaethaf llwyddiannau cynnar, bu syrthio allan rhwng Toye a Beecham, ac ymddiswyddodd Toye.[12]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth y Tŷ Opera yn neuadd ddawns. Roedd posibilrwydd y byddai'n parhau felly ar ôl y rhyfel ond, yn dilyn trafodaethau hir, cafodd y cyhoeddwyr cerdd Boosey & Hawkes brydles yr adeilad. Penodwyd David Webster yn Weinyddwr Cyffredinol, a gwahoddwyd Sadler's Wells Ballet i fod yn gwmni bale preswyl. Cafodd Ymddiriedolaeth Opera Covent Garden ei sefydlu a chafwyd cynlluniau "i sefydlu Covent Garden fel canolfan opera a bale cenedlaethol, gan gyflogi artistiaid Prydeinig ymhob adran, lle bynnag y mae hynny'n gyson â chynnal y safonau gorau posibl ..." [13].

Ail-agorodd y Tŷ Opera Brenhinol ar 20 Chwefror 1946 gyda pherfformiad o'r "Ceinder Cwsg" gan Pyotr Ilyich Tchaikovsky mewn cynhyrchiad newydd ysblennydd a gynlluniwyd gan Oliver Messel. Dechreuodd Webster, gyda'i gyfarwyddwr cerdd Karl Rankl, adeiladu cwmni preswyl yn ddi-oed. Ym mis Rhagfyr 1946, rhannwyd eu cynhyrchiad cyntaf, The Fairy-Queen gan Purcell, gyda'r cwmni ballet. Ar 14 Ionawr 1947, cyflwynodd Cwmni Opera Covent Garden ei berfformiad cyntaf sef Carmen gan Bizet.

Gwelliannau o'r 1980au ymlaen golygu

 
Fasad Bow Street y Tŷ Opera Brenhinol, ar ôl yr ailadeiladu

Cynhaliwyd sawl adnewyddiad i rannau o'r tŷ yn y 1960au, gan gynnwys gwelliannau i'r amffitheatr ond roedd yn amlwg bod angen ailwampio mawr ar y theatr. Ym 1975 rhoddodd y llywodraeth Lafur dir ger y Tŷ Opera Brenhinol am foderneiddio, adnewyddu ac estyn. Yn gynnar yn yr 1980au, roedd rhan gyntaf yr adnewyddiad mawr yn cynnwys estyniad yng nghefn y theatr ar gornel James Street. Ychwanegodd y datblygiad ddwy stiwdio, swyddfeydd, Ystafell Ymarfer Corws ac Ystafell Ymarfer Opera. Ychwanegwyd ystafelloedd gwisgo hefyd.

 
Awditoriwm y Tŷ Opera Brenhinol

Erbyn 1995, codwyd arian digonol gan y gronfa Loteri ar gyfer y celfyddydau trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr ac o arian preifat i alluogi'r cwmni i ymgymryd ag ailadeiladu adeilad sylweddol gwerth £213 miliwn gan gwmni Carillion, Gwnaed y gwaith rhwng 1997 a 1999, o dan gadeiryddiaeth Syr Angus Stirling. Roedd hyn yn golygu dymchwel bron y cyfan o'r safle gan gynnwys nifer o adeiladau cyfagos i wneud lle i gynnydd mawr ym maint y safle. Arhosodd yr awditoriwm ei hun, ond mae dros hanner y safle yn newydd.

Arweiniwyd y tîm dylunio gan Jeremy Dixon ac Edward Jones o Dixon Jones BDP fel penseiri. Y dylunwyr acwstig oedd Rob Harris a Jeremy Newton o Arup Acoustics. Y peiriannydd adeiladu oedd Arup gyda Stanhope fel datblygwr.[14]

 
Mae pont awyr yn cysylltu'r Ysgol Bale Brenhinol (chwith) i'r Tŷ Opera Brenhinol (ar y dde) ar y 4ydd llawr. Dyluniwyd y bont gan benseiri cwmni Wilkinson Eyre

Mae gan yr adeilad newydd yr un awditoriwm ar siâp pedol draddodiadol fel ag o'r blaen, ond gyda chyfleusterau technegol, ymarfer, swyddfa a chyfleusterau addysgol llawer gwell. Yn ogystal, crëwyd theatr stiwdio newydd, y Linbury, yn ogystal â mwy o le cyhoeddus. Cynhwyswyd yr hen Neuadd Blodau cyfagos, a oedd wedi mynd yn adfail ac a defnyddiwyd fel siop golygfeydd cyn yr ailddatblygu, i greu lle ymgynnull cyhoeddus helaeth newydd. Mae'r Tŷ Opera Brenhinol bellach yn honni bod y lleoliad yw'r cyfleuster theatr mwyaf modern yn Ewrop.

Defnyddir uwchdeitlau, wedi eu taflunio i sgrin uwchlaw'r prosceniwm, ar gyfer yr holl berfformiadau opera ers iddynt gael eu cyflwyno ar gyfer sioeau ysgolion ym 1984. Ers ailagor y theatr ym 1999, mae system libreto electronig yn darparu cyfieithiadau ar sgriniau fideo bach ar gyfer rhai seddau, ac mae monitorau a sgriniau ychwanegol i'w cyflwyno i rannau eraill o'r tŷ.

Defnyddiau eraill golygu

Yn ogystal â chynal perfformiadau opera a ballet, mae'r Tŷ Opera Brenhinol wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau eraill gan gynnwys:

  • Gwobrau Laurence Olivier  – 2012 i 2016
  • Gwobrau Ffilm Yr Academi Brydeinig  – Ers 2008 

Cyfeiriadau golygu

  1. "Royal Opera House (London)" description on theatrestrust.org.uk Retrieved 1 Tachwedd 2018
  2. 'The Killigrew and Davenant patents' Survey of London vol. 35 pp 1-8.
  3. Edmund Kean (1789–1833) (NNDB) adalwyd 22 Gorffennaf 2008.
  4. "Theatres Compete in Race to Install Gas Illumination – 1817" (PDF). Over The Footlights. Cyrchwyd 20 May 2014.
  5. Banham, p. 1026
  6. "Madame Parepa-Rosa", Illustrated_London_News Illustrated London News, 7 Chwefror 1874, p. 129; ac Obituary: "Madame Parepa Rosa", The Times, 23 Ionawr 1874, p. 10
  7. Parker 1900, t. 39.
  8. F. G. E. [F. G. Edwards] (1 September 1906). "Wagner's Music in England". The Musical Times 47 (763). JSTOR 903478.
  9. Gordon-Powell, Robin. Ivanhoe, full score, Introduction, vol. I, p. VIII, 2008, The Amber Ring
  10. "Charles Thomas Lucas at Oxford Dictionary of National Biography". Oxforddnb.com. Cyrchwyd 4 Mai 2013.
  11. "Reviews: Drury-Lane Theatre", The Times, 13 Rhagfyr 1858, p. 10.
  12. Jefferson, p. ?
  13. Rosenthal, p. ?
  14. Stanhope PLC - Project The Royal opera House adalwyd 1 Tachwedd 2018

Ffynonellau golygu

  • Banham, Martin The Cambridge Guide to Theatre, Cambridge University Press, 1995 ISBN 0-521-43437-80-521-43437-8.
  • Jefferson, Alan, Sir Thomas Beecham: a Centenary Tribute, London: Macdonald and Jane's, 1979 ISBN 0-354-04205-X0-354-04205-X
  • Parker, E. D. (1900). Opera under Augustus Harris. London: Saxon & Co.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Rosenthal, Harold, Opera at Covent Garden, A Short History, London: Victor Gollancz, 1967. ISBN 0-575-01158-00-575-01158-0 ISBN 0-575-01158-00-575-01158-0
  • Sheppard, F.H.W.,(Ed.), Survey of London, Volume XXXV: The Theatre Royal, Drury Lane and The Royal Opera House, Covent Garden, London: The Athlone Press, 1972. ISBN 0-485-48235-50-485-48235-5 ISBN 978-0-485-48235-5978-0-485-48235-5

Darllen pellach golygu

  • Allen, Mary, A House Divided, Simon & Schuster, 1998.
  • Beauvert, Thierry, Opera Houses of the World, The Vendome Press, New York, 1995.
  • Donaldson, Frances, The Royal Opera House in the Twentieth Century, Weidenfeld & Nicolson, London, 1988.
  • Earl, John and Sell, Michael Guide to British Theatres 1750–1950, pp. 136–8 (Theatres Trust, 2000) ISBN 0-7136-5688-30-7136-5688-3.
  • Haltrecht, Montague, The Quiet Showman: Sir David Webster and the Royal Opera House, Collins, London, 1975.
  • Isaacs, Jeremy, Never Mind the Moon, Bantam Press, 1999.
  • Lebrecht, Norman, Covent Garden: The Untold Story: Dispatches from the English Culture War, 1945–2000, Northeastern University Press, 2001.
  • Lord Drogheda, et al., The Covent Garden Album, Routledge & Kegan Paul, London, 1981.
  • Mosse, Kate, The House: Inside the Royal Opera House Covent Garden, BBC Books, London, 1995.
  • Tooley, John, In House: Covent Garden, Fifty Years of Opera and Ballet, Faber and Faber, London, 1999.
  • Thubron, Colin (text) and Boursnell, Clive (photos), The Royal Opera House Covent Garden, Hamish Hamilton, London, 1982.

Dolenni allanol golygu