Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Thomas Francis O'Rahilly neu Tomás Proinsias Ó Rathaile (11 Tachwedd 188316 Tachwedd 1953), yn ysgrifennu fel T. F. O'Rahilly.

T. F. O'Rahilly
GanwydThomas Francis O'Rahilly Edit this on Wikidata
11 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
Lios Tuathail Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 1953 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon Edit this on Wikidata
AddysgMeistr yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganed ef yn Listowel, Swydd Kerry. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Frenhinol Iwerddon, a bu'n Athro Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1919 hyd 1929, yna'n Athro Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Corc o 1929 hyd 1935 a Choleg Prifysgol Dulyn o 1935 hyd 1941, cyn dod yn gyfarwyddwr Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies o 1942 hyd 1947.

Mae O'Rahilly yn fwyaf adnabyddus am ei syniadau ynghylch hen hanes Iwerddon. Cyhoeddodd Early Irish history and mythology yn 1946, gan gynnig y syniad o bedair symudiad o fewnfudwyr Celtaidd i Iwerddon. Y cyntaf o'r rhain oedd y Cruithne neu Priteni (c. 700 – 500 CC), oedd yn siarad iaith Frythonig.

Roedd ei chwaer, Cecile O'Rahilly, hefyd yn ysgolhaig Celtaidd.