Crefft ymladd o Corea yw Taekwondo a ddatblygwyd yn ystod y 1940au a'r 1950au gan nifer o grefftwyr ymladd Coreaidd, a gyfunodd elfennau o Karate, creftau ymladd o Tsieina ynghyd â thraddodiadau brodorol Taekkyeon, Subak, a Gwonbeop. Ffurfiwyd y corff rheoli hynaf yn 1976, sef Cymdeithas Taekwondo Corea, gan gynrychiolwyr y naw kwan (neu ysgol ymladd) wreiddiol. Yn y blynyddoedd cynnar, mabwysiadwyd y grefft ymladd gan fyddin De Corea, a chafodd hyn gryn effaith ar boblogrwydd Taekwondo drwy'r wlad.[1]

Taekwondo
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathcrefft ymladd, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
GwladYmerodraeth Corea Edit this on Wikidata
Enw brodorol태권도 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cic dwy droed

Offer ac adnoddau golygu

Gelwir yr ysgol neu'r athrofa yn dojang] (도장, doh'-jang). Yn benodol dyma'r man neu'r ystafell ble mae'r disgyblion yn dysgu eu crefft.

Mae disgybl taekwondo yn gwisgo gwisg wen fel arfer neu ar adegau du neu liw arall; gelwir y wisg yn dobok a cheir gwregus o gwmpas y wasg.

Cyfeiriadau golygu

  1. Sik, Kang Won; Lee Kyong Myung (1999). A Modern History of Taekwondo. Seoul: Pogyŏng Munhwasa. ISBN 978-89-358-0124-4.