Tafarn y Seren

tafarn yn Rhuthun

Cofrestrwyd Tafarn y Seren gan Cadw yn adeilad rhestredig Gradd II ar 16 Mai 1978, a saif yn nhref farchnad, hanesyddol Rhuthun, Sir Ddinbych.[1] Saif ar waelod Stryd Clwyd, yn union gyferbyn a Charchar rhuthun. Honir mai dyma dafarn hynaf y dref.[2] Cafodd ei adeiuladu'n wreiddiol yn 1639, fwy na thebyg yn unswydd i werthu'r 'ddiod garn'.

Tafarn y Seren
Tafarn y Seren, Rhuthun; 2009
Gwybodaeth gyffredinol
GwladCymru
Cychwynwyd y gwaith1639
Gorffenwyd1639
Manylion technegol
System strwythurolcarreg, bric a phren

Yn gynnar yn 2010 darganfuwyd swm o hen ddogfennau i fyny yn atig y dafarn, 40 o ddogfennau budr wedi'u crensian yn fwndel bler. Mae'r rhain wedi taflu golau ar hanes tywyll yr adeilad, yn enwedig yn y 19g am fywyd o ddydd i ddydd mewn tafarn. Soniant am aelod o'r bumed cenhedlaeth i gadw tafarn, sef John Williams.

Ar ôl codi'r adeilad yn 1639, galwyd y dafarn y North Pole, a gwyddom mai James Edwards (saer maen) oedd y perchennog; newidiwyd yr enw i'r Seren (efallai oherwydd 'Seren y Gogledd') yn 1775, pan oedd Richard Percival (hefyd yn saer maen a briciwr yn ei amser rhydd) yn dal y drwydded. Yn 2010, gan nad oes deddfau yng Nghymru i atal newid yr enw, newidiwyd yr enw i 'Y Seren Fore' (the Morning Star).

Ceir disgrifiad sy'n mynd yn ôl i 1845 fod yma far yn ffrynt y Seren, a pharlwr o boptu, gyda chegin, pantri a bragdy yng nghefn yr adeilad - mewn estyniad arbennig o'r 19g. O dan y mannau cyhoeddus, sef ffrynt yr adeilad, ceir seleri i ddal y casgenni cwrw. Uwchben, caed pedair llofft ar gyfer y gweision a'r gwasanaethferched.

Y teulu Williams golygu

Yn 1799 daliwr y drwydded oedd William Williams, sef y cyntaf o linach hir i redeg y Seren: tair cenhedlaeth a phump aelod o'r teulu yn ddalwyr trwydded. Ei fab John ddaeth wedyn, a gwelwyn o'r cofnodion faint o gredid roedd yn ei roi i'w gwsmeriaid. Mae'n cynnwys enwau 52 o gwsmeriaid, a rhoed y benthyciadau hyd nes eu bont hwythau wedi cael eu talu am waith gan eraill.

Yn y 1840au roedd 51 o dafarnau yn Rhuthun; roedd 9 tafarn yn Stryd Clwyd a dau'n arbennigo ar gwrw yn unig.

yn y 18g, gwelwn fod y Seren yn darparu: brecwast, cinio, swper, brechdanau (sanviges), te a choffi.[3] Arlwywyd byrddau'r parlwr ar gyfer bwyd, a gwyddom fod yma fyrddau a chadeiriau cyfforddus a charped o dan draed!

Cyfeiriadau golygu

  1. British Listed Buildings adalwyd 22 Medi 2014
  2. Morning Star website; Archifwyd 2014-10-06 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Medi 2014
  3. Quarter and Petty Sessions Records, Probate Records, Business Directories and Electoral Rolls; mae'r rhain ar gael yn Archifdy Sir Ddinbych, sydd wedi'i leoli ar draws y ffordd i'r Seren.

51°48′36″N 2°43′29″W / 51.809934°N 2.724615°W / 51.809934; -2.724615 (Gwesty'r Seren, Rhuthun)